Diploma Cenedlaethol Lefel 3 mewn Nyrsio Deintyddol (Cymru)
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Dysgu seiliedig ar waith
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
Rhaglen 18-24 mis
Diploma Cenedlaethol Lefel 3 mewn Nyrsio Deintyddol (Cymru)Prentisiethau
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r Ddiploma ar gael drwy lwybr prentisiaeth sy'n rhaglen a ariennir yn llawn gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r rhaglen yn para rhwng 18 a 24 mis. Mae elfennau o'r rhaglen yn cynnwys - Sgiliau Hanfodol Lefel 2 mewn Cymhwyso Rhif, Cyfathrebu a Llythrennedd Digidol. (Caiff ymgeiswyr eu heithrio os oes ganddynt TGAU graddau A-C)
Caiff y cymhwyster hwn ei achredu drwy'r corff dyfarnu, Agored.
I wneud y cymhwyster, rhaid i ddarpar ddysgwyr fod wedi'u cyflogi fel hyfforddai nyrs ddeintyddol.
Mae'r cymhwyster yn canolbwyntio ar y pynciau canlynol:
- Anatomeg a Ffisioleg Geneuol a Deintyddol
- Clefydau'r Dannedd a'r Geg ac Ymarfer Ataliol
- Triniaethau Ddeintyddol
- Gweithdrefnau gofalu am gleifion
Mae’r cymhwyster yn addas i:
- Nyrsys deintyddol sydd heb gymhwyso ond sydd eisoes yn gweithio fel nyrsys deintyddol
- Nyrsys deintyddol sydd wedi cymhwyso ond heb eu cofrestru sy'n dymuno cael cymhwyster nyrsio deintyddol a chael eu cofrestru gyda'r GDC
Mae manteision y cwrs yn cynnwys:
- Y cyfle i ennill cymhwyster proffesiynol a chydnabyddedig
- Llwybr gyrfa clir
Mae 6 uned yn rhan o'r Ddiploma sy'n rhoi cyfanswm o 50 credyd.
Gofynion mynediad
Rhaid i chi fod yn 16 oed neu hŷn ac yn gyflogedig mewn diwydiant perthnasol.
Cyflwyniad
Bydd y cymhwyster a'r Cymwysterau Sgiliau Hanfodol sy'n gysylltiedig â'r fframwaith yn cael eu darparu drwy ddysgu seiliedig ar waith.
Bydd y dull dysgu cyfunol hwn yn cynnwys ychydig iawn o bresenoldeb yn y coleg ac fe ddefnyddir cymysgedd ac amrywiaeth o ddulliau asesu i gasglu tystiolaeth.
Asesiad
Gall hyn gynnwys sesiynau dysgu ar-lein, arsylwadau yn ystod ymarfer gwaith naturiol yn y gweithle, trafodaethau proffesiynol, aseiniadau, llyfrau gwaith, holiadur amlddewis a phrosiect.
Dilyniant
Mae'r brentisiaeth hon yn rhoi llwybr dilyniant posibl i'r dysgwyr mewn meysydd eraill. Er enghraifft:
- Hyfforddiant uwch mewn nyrsio deintyddol a defnyddio tawelyddion
- Addysg Iechyd Geneuol
- Radiograffeg ddeintyddol yn ogystal â llwybrau gyrfa eraill yn gysylltiedig ag addysgu, asesu, hylendid deintyddol a rheoli ymarfer deintyddol.
- Nyrsio Cyffredinol
- Bydwreigiaeth
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Prentisiethau
Lefel:
3
Maes rhaglen:
- Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant