Dyfarniad Lefel 6 CIM mewn Strategaeth a Chynllunio
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Online
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
Cyflwynir y modiwl hwn yn wythnosol, fel arfer ar fore Iau, am 10 wythnos.
Cynigir tri chyfle i ddechrau'r cwrs bob blwyddyn, ym mis Medi, mis Ionawr a mis Ebrill.
Dyfarniad Lefel 6 CIM mewn Strategaeth a ChynllunioProffesiynol
Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae cynllunio strategol yn sgil hanfodol i Reolwyr Marchnata, ac mae'n eu grymuso i wneud penderfyniadau gwybodus, optimeiddio adnoddau, a gyrru'r sefydliad tuag at gyflawni ei nodau mewn amgylchedd marchnata cystadleuol a deinamig.
Bydd y modiwl hwn yn rhoi dealltwriaeth i chi o gynnal archwiliadau marchnata a dadansoddi tueddiadau'r farchnad a sut i ddefnyddio'r mewnwelediadau sy'n deillio o hynny.
Byddwch yn gallu datblygu cynlluniau marchnata sy'n cyflawni amcanion sefydliadol yn seiliedig ar ddata a mewnwelediadau ac argymell gwelliannau yn seiliedig ar werthuso'r metrigau a ddefnyddiwyd.
Byddwch hefyd yn gallu datblygu cynlluniau marchnata ategol fel cynlluniau cyfathrebu digidol, brand a marchnata a sicrhau eu bod yn integreiddio i gefnogi'r nodau marchnata cyffredinol.
Bydd y cwrs hwn yn rhoi hyder i chi ac yn gwella eich gwybodaeth farchnata fel Rheolwr Marchnata, neu'n eich helpu i sicrhau swydd Rheolwr Marchnata.
Gofynion mynediad
Mae angen un neu ragor o'r canlynol i gwblhau cymhwyster Lefel 6:
- Cymhwyster Lefel 4 CIM neu gymhwyster cyfatebol perthnasol.
- Prentisiaeth Lefel 4 mewn Marchnata
- Gradd Baglor neu radd Meistr, gyda thraean o'r credydau wedi'u seilio ar faes marchnata.
- Profiad proffesiynol (awgrymir dwy flynedd o brofiad marchnata mewn swydd weithredol).
Cyflwyniad
Cyflwynir y cwrs trwy wersi ar-lein a arweinir gan diwtor. Byddwch yn cael mynediad i'r gwersi hyn trwy Google Meet.
Cewch eich annog i rannu syniadau ac i gymryd rhan mewn gwaith grŵp trwy sesiynau rhyngweithiol.
Asesiad
Asesir y cymhwyster hwn ar-lein trwy arholiad amlddewis.
Cewch sefyll yr arholiadau gartref neu yn eich gweithle.
Mae'r asesiadau'n bodloni anghenion cyflogwyr, yn ymarferol, yn berthnasol ac yn addas i fusnesau.
Dilyniant
Gallwch barhau i astudio Dyfarniadau Lefel 6 eraill i ennill y cymhwyster Diploma.
Edrychwch ar y dudalen cymhwyster Diploma Lefel 6 i weld pa fodiwlau sydd angen i chi eu cwblhau i ennill y cymhwyster hwn.
Bydd y cwrs hwn yn helpu'r rhai sydd â phrofiad marchnata i gael dyrchafiad i fod yn rheolwr marchnata.
Bydd yn eich helpu i sicrhau cyfleoedd gyrfa lefel uwch mewn sefydliadau.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Proffesiynol, Cyrsiau Byr
Lefel:
6
Maes rhaglen:
- Business and Management
Sefydliad dyfarnu: Chartered Institute of Marketing
Business and Management
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Sefydliad dyfarnu
