Dyfarniad Lefel 4 CIM mewn Cynllunio Ymgyrchoedd Integredig
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Online
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
Addysgir y cwrs hwn mewn sesiynau tair awr gyda dwy awr o amser tiwtorial ychwanegol yr wythnos, fel arfer ar fore Mawrth, dros gyfnod o wyth wythnos.
Asesir y cymhwyster hwn ar-lein trwy arholiad amlddewis.
Dyfarniad Lefel 4 CIM mewn Cynllunio Ymgyrchoedd IntegredigProffesiynol
Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r modiwl hwn yn ystyried sut mae sefydliad yn datblygu ymgyrchoedd integredig o safbwynt cynnwys ac ymddygiad, er mwyn sicrhau datblygu cyfathrebu sy'n canolbwyntio ar y cwsmer a sut y gellir mesur effaith y cyfathrebu.
Mae'r modiwl yn cynnwys tri deilliant allweddol:
1. Sut mae'r sefydliad yn rhyngweithio â chwsmeriaid
2. Deall sut mae cwsmeriaid yn ymgysylltu â'r cyfryngau a chynnwys
3. Creu cynlluniau ymgyrch integredig sy'n canolbwyntio ar y cwsmer.
Mae'r cwrs hwn yn addas i farchnatwyr sydd â blwyddyn o brofiad neu gymhwyster Lefel 3.
Efallai eich bod mewn rôl marchnata mewn sefydliad neu fod gennych swydd lle mae marchnata yn rhan fawr o'ch cyfrifoldebau.
Bydd y cwrs hwn yn rhoi hyder i chi ac yn gwella eich gwybodaeth am farchnata.
Gofynion mynediad
Bydd angen o leiaf blwyddyn o brofiad yn y diwydiant arnoch neu gymhwyster Lefel 3 perthnasol i astudio'r cwrs Tystysgrif mewn Marchnata Proffesiynol ar Lefel 4.
Fel arall, byddai Prentisiaeth Lefel 3 hefyd yn cael ei derbyn.
Cyflwyniad
Cyflwynir y cwrs trwy wersi ar-lein a arweinir gan diwtor. Byddwch yn cael mynediad i'r gwersi hyn trwy Google Meet.
Cewch eich annog i rannu syniadau ac i gymryd rhan mewn gwaith grŵp trwy sesiynau rhyngweithiol.
Asesiad
Asesir y cymhwyster hwn ar-lein trwy arholiadau amlddewis. Cewch sefyll yr arholiadau gartref neu yn eich gweithle.
Mae'r asesiadau'n bodloni anghenion cyflogwyr, yn ymarferol, yn berthnasol ac yn addas i fusnesau.
Dilyniant
Mae'r dyfarniad hwn yn rhan o gymhwyster Tystysgrif Lefel 4 CIM mewn Marchnata Proffesiynol a Digidol.
Bydd cwblhau cymwysterau Lefel 4 CIM yn llwyddiannus yn rhoi i chi'r wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth i allu gweithredu fel 'Swyddog Marchnata' ac i gyflawni rôl farchnata broffesiynol hanfodol a llwyddiannus yn y gweithle.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Proffesiynol, Cyrsiau Byr
Lefel:
4
Maes rhaglen:
- Business and Management
Sefydliad dyfarnu: Chartered Institute of Marketing
Business and Management
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Sefydliad dyfarnu
