Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos, CIST Llangefni
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    Hyd at 1 wythnos yn dibynnu ar ofynion ACS

Disgrifiad o'r Cwrs

Peirianwyr Gas Safe cofrestredig sydd angen adnewyddu eu cymwysterau ACS.

Mannau Gwaith:

CoNGLP1 (Changeover domestic natural gas to LPG) – Cyfnewid nwy domestig naturiol i LPG

PD (Permanent Dwellings) – Anheddau Parhaol

RPH (RESIDENTIAL PARK HOME) – Cartrefi Preswyl mewn Parciau

LAV (LEISURE ACCOMMODATION VEHICLES) – Cerbydau llety hamdden

B (Boats) – Cychod

Cyfarpar LPG Penodol:

HTRLP2- Gosod, cyfnewid, gwasanaethu, atgyweirio, datgymalu a chomisiynu tanau nwy gyda ffliwiau caeedig - LPG

Elfennau craidd

  • Rheoliadau diogelwch nwy, Rheoliadau Adeiladu, Safonau Prydeinig a deddfwriaethau perthnasol eraill
  • Sefyllfaoedd anniogel a'r camau i'w cymryd mewn argyfwng
  • Nodweddion lleoli silindrau LPG, diogelwch a meintiau
  • Gweithredu a lleoli ar gyfer ynysu mewn argyfwng, rheoli llif a falfiau silindrau
  • Pwysau cyflenwadau
  • Pibellau nwy (yn cynnwys meintiau, gosod, diffygion a namau)
  • Profi tyndra a llwyrlanhau (PD, LAV a RPH)
  • Ffliwau ac awyru
  • Hylosgi
  • Dadansoddi perfformiad hylosgi (profion nwy ffliw)
  • Rheolyddion cyfarpar

Cyfarpar

  • Rheoliadau diogelwch nwy, Rheoliadau Adeiladu, Safonau Prydeinig a deddfwriaethau perthnasol eraill
  • Gosod
  • Comisiynu a chanfod diffygion
  • Gweithdrefnau gwasanaethu
  • Sefyllfaoedd anniogel

Mae cyllid PLA ar gael ar gyfer asesiadau cychwynnol yn unig, nid ailasesiadau.

Mae cyllid PLA ar gael yn CIST Llangefni yn unig.

Gofynion mynediad

Cymwysterau ACS blaenorol

Mae’r cwrs hwn yn addas i beirianwyr sydd â'r cymwysterau angenrheidiol i gael eu derbyn ar y Cynllun ACS. Y Bwrdd Rheoli Strategol ar gyfer y diwydiant sy'n rhedeg y cwrs a bydd ei gwblhau'n llwyddiannus yn galluogi peirianwyr i gofrestru gyda Gas Safe.

Dosberthir peirianwyr i dri chategori:

  • Categori 1 - Gweithiwr gosod nwy profiadol
  • Categori 2 - Ymgeisydd gyda phrofiad/cymwysterau perthnasol ym maes gosod nwy/peirianneg fecanyddol
  • Categori 3 - Ymgeisydd newydd heb unrhyw gymwysterau/profiad perthnasol

Gwybodaeth ychwanegol:

Ar ddiwrnod yr hyfforddiant bydd angen i chi ddod â:

  • 2x ffotograff maint pasbort
  • Peirianwyr Gas Safe cofrestredig sydd angen adnewyddu eu cymwysterau ACS.
  • Deunydd i wneud nodiadau (ni chaniateir dyfeisiau recordio)
  • Cyfrifiannell (heb fod yn un ar ffôn clyfar) y gallwn ei rhoi i chi ar y diwrnod.

Byddwn hefyd yn darparu copi o'r NICEIC LPG On-site Guide i chi ei ddefnyddio yn ystod yr hyfforddiant. Gallwch brynu eich copi eich hun drwy glicio yma.

Noder: Nid yw hyfforddiant yn orfodol ar gyfer asesiad

Cyflwyniad

Hyd at 2 ddiwrnod o hyfforddiant, yn ddibynnol ar ofynion ACS

Asesiad

Asesiadau ymarferol a gwaith theori

Dilyniant

N/A

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Byr

Lefel: N/A

Maes rhaglen:

  • Cyfrif Dysgu Personol

Dwyieithog:

n/a