Prosbectws Rhan Amser
Cyrsiau sydd ddim angen cyfweliad:
Os nad oes angen cyfweliad, llenwch y ffurflen gofrestru yng nghefn yr arweiniad i gyrsiau rhan-amser neu lawrlwythwch un a'i dychwelyd gyda'r tâl cywir i'r campws perthnasol.
Cyrsiau sydd angen cyfweliad:
Os bydd angen i chi gael cyfweliad am y cwrs sy'n apelio atoch, pediwch â phoeni! Fel rheol, bydd y cyfweliad yn anffurfiol iawn a, chan amlaf, ni fydd angen mwy na galwad ffôn fer. Pwrpas y cyfweliad yw trafod Gofynion Cyn-mynediad eich cwrs a rhoi rhagor o fanylion I chi.
I drefnu cyfweliad, cysylltwch â'r Coleg priodol. Gallwch ffonio, anfon e-bost at generalenquiries@gllm.ac.uk neu ddefnyddio'r cyfleuster LiveChat.
Ar ôl eich cyfweliad, bydd gofyn i chi lenwi a dychwelyd y ffurflen gofrestru gyda'r tâl cywir i'r campws priodol. Gallwch lawrlwytho ffurflen isod neu ddefnyddio'r ffurflen sydd yng nghefn yr arweiniad i gyrsiau rhan-amser.
Ffurflen Gofrestru
Gallwch archebu a thalu am nifer o gyrsiau ar-lein.
Os ydych am ddefnyddio ffurflen copi caled, gallwch ei lawrlwytho yma:
Ffurflen Gofrestru Rhan-Amser (PDF)
Dysgwyr sydd o dan 16 oed
Ni chaniateir i ddysgwyr rhwng 14 ac 16 oed fynychu dosbarthiadau nos a gynhelir ar ôl 18.00 os na fydd rhiant/gwarcheidwad neu oedolyn cyfrifol (sydd dros 18 oed) yn dod gyda hwy i’w goruchwylio ac i ofalu am eu diogelwch tra byddant ar safle’r Coleg. Yn ogystal â hyn, bydd angen trafod presenoldeb y disgybl gyda’i ysgol er mwyn cael cadarnhad na fydd mynychu’r dosbarth nos yn amharu ar gynnydd y disgybl yn yr ysgol. Ni chaniateir i ddysgwyr dan 16 oed fynychu cyrsiau a gynhelir yn ystod y dydd.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am gonsesiynau a ffioedd.