ReAct - Cynllun Gwithredu Gostyngiad

Rhaglen ariannu yw'r Cynllun Gweithredu ar Ddiswyddiadau III (ReAct III) ar gyfer hyfforddiant a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i bobl sy'n byw yng Nghymru ac sy'n wynebu'r posibilrwydd o golli'u swyddi. Gall y cynllun hefyd helpu Cyflogwyr sy'n lleihau maint eu busnesau neu sy'n recriwtio staff. Mae'r adran hon yn cynghori ar sut y gall y cynllun ReAct IIeich helpu os ydych yn wynebu colli'ch swydd neu os ydych wedi colli'ch swydd yn ddiweddar.

Gallwn roi dyfarniad hyfforddi o hyd at £1,500 i chi i'ch helpu i ddysgu'r sgiliau rydych eu hangen i gael swydd. Gallwch hyfforddi tra byddwch yn chwilio am swydd neu gallwch fynd ar gyrsiau i ddysgu'r sgiliau rydych eu hangen, hyd yn oed os ydych yn bwriadu gweithio i chi'ch hun yn y pen draw.

Pwy sy'n gymwys?
Mae cymorth o dan gynllun ReAct III ar gael i'r rheini:

  • sydd wedi'u diswyddo yn y tri mis diwethaf. Rhaid iddyn nhw fod yn ddi-waith ar hyn o bryd a heb fod mewn swydd am 6 wythnos yn olynol neu fwy ers iddynt gael eu diswyddo; neu
  • sydd o dan rybudd diswyddo; ac
  • sydd heb ymgymryd ag unrhyw hyfforddiant sy'n cael ei ariannu gan sefydliad cyhoeddus ers cael eu diswyddo, gan gynnwys rhaglenni dysgu seiliedig ar waith.

Beth sydd ar gael?
Mae tair elfen i gynllun ReAct III:

  • Cymorth gyda Recriwtio a Hyfforddi
  • Grant Dewisol – Hyfforddiant Galwedigaethol
  • Grant Dewisol – Amrywiol

Mae cymorth ar gael i ymgeiswyr cymwys ddysgu sgiliau a chael gwared ar rwystrau sy'n eu hatal rhag dysgu neu ddychwelyd i'r gwaith. Er mwyn sicrhau bod yr hyfforddiant hwn yn rhoi'r cyfle gorau posibl iddynt ddod o hyd i swydd newydd, bydd Gyrfa Cymru yn asesu anghenion hyfforddi pob ymgeisydd. Hefyd, bydd Gyrfa Cymru yn rhoi cyngor ar gyrsiau hyfforddi addas a gynhelir mewn lleoliad sy'n gyfleus iddynt.

Mae'r cymorth ariannol canlynol ar gael i gynorthwyo gyda'r rhan hon o'r pecyn cymorth:

  • telir yr holl gostau hyfforddiant sy'n gysylltiedig â dysgu sgiliau newydd (hyd at gyfanswm o £1,500);
  • mae modd cael cymorth i dalu am offer arbennig sy'n angenrheidiol er mwyn ymgymryd â'r hyfforddiant;
  • mae modd cael cymorth i dalu costau teithio i gyrsiau hyfforddiant;
  • telir costau llety dros nos, lle bo hynny'n briodol;
  • cynigir cymorth i dalu costau gofal plant i bobl sy'n mynychu hyfforddiant (yn amodol ar gyfyngiadau a thelerau).

Mwy o wybodaeth
Mae modd ichi gael rhagor o wybodaeth am ReAct un ai gan dîm ReAct yn Abertawe, trwy gysylltu â'ch swyddfa Gyrfa Cymru leol neu drwy ffonio Dysgu a Cyngor Gwaith ar 0800 100 900.

Gwefan Careers Wales

Manylion cyswllt
Cysylltwch a Ceri Lloyd-Roberts & Alison Owen ar 08445 460 460.

Pobl yn gweithio mewn campfa