Sgiliau Cyflogwyr Gogledd Cymru: Cyllid i Lenwi Bylchau mewn Sgiliau

Mae’r Prosiect Sgiliau Cyflogwyr Gogledd Cymru yn darparu hyfforddiant a ariennir yn llawn i fusnesau ac unigolion yng ngogledd Cymru.

Mae Sgiliau Cyflogwyr Gogledd Cymru yn helpu cwmnïau drwy nodi bylchau mewn sgiliau a chyfeirio cyflogwyr at hyfforddiant a ariennir yn llawn er mwyn hwyluso twf, diogelu swyddi a chefnogi'r broses o greu swyddi newydd.

Gall busnesau gael mynediad at yr ystod gyfan o hyfforddiant a ddarperir gan Grŵp Llandrillo Menai ynghyd â'r ddarpariaeth fusnes arbenigol sydd ar gael drwy Busnes@LlandrilloMenai.

Mae hyn yn cynnwys:

  • Cyrsiau ardystiedig mewn Busnes, Arweinyddiaeth, Rheolaeth, Cyllid a Chyfrifyddiaeth
  • Cyrsiau arbenigol mewn technoleg arloesol i leihau carbon, hyfforddiant ardystiedig ar gyfer y diwydiant adeiladu
  • Hyfforddiant ar gyfer busnesau cynhyrchu bwyd drwy'r Ganolfan Technoleg Bwyd yn Llangefni
  • Amrywiaeth eang o gyrsiau gan gynnwys cyrsiau byr mewn Rheoli, Gweinyddu, Marchnata drwy'r Cyfryngau Digidol a Chymdeithasol, Gofal Plant, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Lletygarwch ac Arlwyo.

Rhwng Hydref 2023 a Rhagfyr 2024 gall busnesau yn siroedd Môn, Gwynedd a Chonwy gael mynediad at hyfforddiant a chyrsiau gan Grŵp Llandrillo Menai a Busnes@LlandrilloMenai sy'n cael eu hariannu'n llawn.

Gellir gwneud ceisiadau am gyllid drwy gysylltu â'n Tîm Datblygu Busnes. Cysylltwch ag prosiectsgiliaucyflogwyr@gllm.ac.uk, ffoniwch 08445 460 460 neu llenwch y ffurflen isod a byddwn yn cysylltu â chi.

Dysgwr ar alwad video

Rhowch eich neges.

Logo Ffyniant Bro
Logo "Wedi ei arianu gan lywodraeth y DU"
Logo Levelling up

Ariennir y prosiect hwn £2.8m gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn brif biler agenda Hybu Ffyniant Bro llywodraeth y DU ac mae’n darparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer ei fuddsoddi’n lleol erbyn Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw gwella balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ar draws y DU, buddsoddi mewn cymunedau a lle, gan gynorthwyo busnesau lleol, a phobl a sgiliau. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy

Logo cyngor Conwy
Logo cyngos Ynys Mon
Logo cyngor Gwynedd
Logo cyngor Sir Fflint
Logo cyngor Wrecsam