Drwy ddefnyddio ein gwefan, rydych yn caniatáu y defnydd o gwcis.

By using our website, you consent to the use of cookies.

Get Carter UK 365 Ltd

Wedi ei sefydlu yn 2015, mae’r busnes wedi ei leoli yng ngogledd Cymru ac yn cyflogi 13 o bobl. Mae Get Carter yn gweithio ar draws y DU gan ddarparu gwasanaethau gwresogi a phlymio i gwsmeriaid masnachol a domestig yn y sector tai preifat a chymdeithasol.

Enw: Paul Carter

Cwmni: Get Carter UK 365 Ltd

Proffil y Cwmni: Wedi ei sefydlu yn 2015, mae’r busnes wedi ei leoli yng ngogledd Cymru ac yn cyflogi 13 o bobl. Mae Get Carter yn gweithio ar draws y DU gan ddarparu gwasanaethau gwresogi a phlymio i gwsmeriaid masnachol a domestig yn y sector tai preifat a chymdeithasol.

Ydi anghenion eich cwsmeriaid yn newid?
Rydym yn sicr yn sylwi ar gynnydd yn y galw am ynni adnewyddadwy mewn tai yn ogystal â mewn eiddo masnachol. Ond mae cwsmeriaid yn dweud mai’r prif reswm am hyn ar hyn o bryd yw’r angen i leihau costau ac arbed arian yn y tymor hir gan fod prisiau ynni ar gynnydd.

Pam wnaethoch chi benderfynu cofrestru gyda Sero Net Gwynedd?
Rydw i o hyd yn awyddus i ddatblygu fy sgiliau felly roedd hi’n gwneud synnwyr i’r busnes fod yn rhan o’r cynllun. Wrth i’r galw gynyddu am ffyrdd mwy cynaliadwy o wresogi cartrefi, roeddwn i eisiau gwneud yn siŵr ein bod yn gallu ateb y galw yn ogystal â chadw i fyny â thechnoleg. Wrth redeg busnes mae’n hynod o bwysig ni barhau i fod yn gystadleuol.

Pa gyrsiau ydych chi wedi eu dilyn?

  • Solar Thermol
  • Pympiau Gwres
  • Effeithlonrwydd Domestig
  • Rheoliadau Dŵr

Ydi’r sgiliau rydych chi wedi’u ddysgu trwy’r prosiect wedi bod yn ddefnyddiol i chi?
Mae'r sgiliau rydyn ni'n eu dysgu trwy'r prosiect yn helpu ni i ddal i fyny efo’r wybodaeth ddiweddaraf a hefyd yn golygu y gallwn ni esblygu fel busnes. Mae’r cyrsiau wedi ein helpu i ddatblygu ein gallu fel cwmni a chynnig y gwasanaethau ynni adnewyddadwy y mae ein cwsmeriaid yn gynyddol gofyn amdanynt.