Defnyddio Technegau Gwella Busnes i Wella Effeithiolrwydd Gweithrediadau
Manylion Allweddol
-
Ar gael yn:Busnes@LlandrilloMenai, Parc Busnes Llanelwy
-
Dull astudio:Rhan amser
-
Hyd:
1 diwrnod.
Defnyddio Technegau Gwella Busnes i Wella Effeithiolrwydd Gweithrediadau
Cyrsiau Byr
Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r cwrs undydd hwn wedi'i gynllunio i arfogi perchnogion busnesau bach, arweinwyr tîm, a rheolwyr, â'r arfau a'r dulliau ymarferol i yrru effeithlonrwydd a pherfformiad. Bydd y cyfranogwyr yn archwilio technegau allweddol ar gyfer gwella busnes ac yn dysgu sut i adnabod, dadansoddi, a gweithredu newidiadau sydd ag effaith ystyrlon — yn enwedig ar raddfa weithredol lai.
Pam Dilyn y Cwrs?
Erbyn diwedd y sesiwn, bydd y cyfranogwyr yn:
Deall y manteision y mae gwella busnes yn eu dwyn i sefydliad
Dysgu a chymhwyso egwyddorion a thechnegau 'Lean' i leihau gwastraff
Cynnal dadansoddiad effeithiol o brosesau a datrys problemau
Ennill yr arfau i weithredu a chynnal gwelliannau
Creu cynllun gweithredu wedi'i deilwra i'w maes busnes eu hunain
I bwy mae’n addas?
Delfrydol ar gyfer:
Perchnogion busnesau bach
Arweinwyr tîm
Rheolwyr
Mae'r cwrs hwn yn addas ar gyfer y rhai sy'n ceisio gwneud gwelliannau penodol, ymarferol, o fewn eu timau neu eu gweithrediadau - heb fod angen profiad blaenorol helaeth mewn arferion gwella busnes.
Cofleidio newid. Gwneud gwahaniaeth.
Gwella effeithlonrwydd eich busnes gyda thechnegau ac arfau sydd wedi eu profi.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
N/A
Maes rhaglen:
- Business and Management
Business and Management
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
