Uwch-werthu - Gwneud yn Fawr o Bob Cyfle

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Abergele, Dolgellau, Busnes@LlandrilloMenai, Parc Menai
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    ½ diwrnod (4 awr)

Gwnewch gais
×

Uwch-werthu - Gwneud yn Fawr o Bob Cyfle

Cyrsiau Byr

Coleg Llandrillo, Abergele
Dydd Iau, 13/06/2024

Disgrifiad o'r Cwrs

Gweithdy fydd yn eich galluogi i feithrin gwell dealltwriaeth o bopeth (cynnyrch neu wasanaeth) mae eich busnes yn ei gynnig, ynghyd â sut i wneud y mwyaf o gysylltiad cwsmer â'ch busnes.

*Os bydd galw, gallwn ddarparu cyrsiau ar safle'r cwsmer.

Bydd manteision y cwrs yn cynnwys:

  • Deall pwysigrwydd sicrhau bod gwybodaeth am gynnyrch/gwasanaeth yn gyfredol.
  • Gwell cyfathrebu rhwng gwahanol adrannau a thimau staff.
  • Deall gwir fanteision 'Uwch-werthu' a Thraws-werthu'.

Technegau a ddefnyddir i hyrwyddo cynnyrch ychwanegol a/neu wasanaethau.

  • Sut y gallwch chi gydweddu cynnyrch a/neu wasanaethau ag anghenion penodol cwsmer.
  • Lefelau gwasanaeth i gwsmeriaid a lefelau bodlonrwydd gwsmeriaid uwch.
  • Codi lefelau elw o incwm y busnes.
  • Niferoedd uwch o gwsmeriaid yn dychwelyd ac adolygiadau cadarnhaol gan gwsmeriaid.
  • Posibilrwydd o ddenu cwsmeriaid newydd.

Yn ystod y gweithdy, bydd mynychwyr yn dysgu rhagor am:

  • Adnabod cyfleoedd i hyrwyddo cynnyrch a/neu wasanaethau ychwanegol sydd yn debygol o wella profiad cwsmeriaid.
  • Hyrwyddo manteision cynnyrch a/neu wasanaethau ychwanegol sydd yn debygol o fod o ddiddordeb i gwsmeriaid.
  • Cynnig gwybodaeth i gwsmeriaid fydd yn eu cynorthwyo i ddewis cynnyrch a/neu wasanaethau ychwanegol neu beidio dewis rhai ychwanegol.
  • Sut i weithredu ac ymateb yn effeithiol i wybodaeth a dderbynnir gan gwsmeriaid.
  • Gweithredu mewn modd cynhyrchiol gydag adrannau eraill y busnes a chyflawni ethos 'un tîm'.
  • Meithrin ymwybyddiaeth o bolisïau a gweithdrefnau sefydliadol, gofynion cyfreithiol a moesegol wrth hyrwyddo cynnyrch a/neu wasanaethau. Gweithdrefnau a pholisïau sefydliadol sy'n berthnasol i: rolau a chyfrifoldebau, dangos cyfyngiadau awdurdod/cynnig gwasanaeth / ymdrin â chwsmeriaid.
  • Eich polisïau a gweithdrefnau sy'n ymwneud â hyrwyddo cynnyrch a/neu wasanaethau ychwanegol.
  • Y gofynion cyfreithiol sy'n berthnasol i werthu a/neu hyrwyddo cynnyrch a gwasanaethau.

Adborth gan gwsmeriaid:

"Mae'r adborth wedi bod yn gadarnhaol iawn. Mae rhai o'n rheolwyr llinell wedi dilyn yr hyfforddiant ac maen nhw'n dweud ei fod wedi gwneud i'w timau feddwl rhagor am hysbysebu/gwerthu/arddangos cyfleusterau/cynnyrch y cwmni.

Dyma oedd un o'r prif nodau felly rydw i'n hapus iawn â hynny. Mae hefyd wedi gwneud i staff feddwl rhagor am werthiant."

Aura Wales (Leisure & Libraries) - Hydref 2022

Dyddiadau Cwrs

Coleg Llandrillo, Abergele

DyddiadAmserDyddiauOriauWythnosauCostArchebionCod
13/06/202409:00 Dydd Iau4.001 £750 / 12UPS/SH1234I

Gofynion mynediad

Dim.

Cyflwyniad

Gweithdy rhyngweithiol dan arweiniad tiwtor.

Asesiad

Nid oes asesu ffurfiol.

Dilyniant

  • Gweithdy Gwasanaeth i Gwsmeriaid
  • Dyfarniad CIM Lefel 3
  • NVQ Level 2 ym maes Gwasanaethau i Gwsmeriaid

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Byr

Lefel: N/A

Maes rhaglen:

  • Business and Management

Mae'r cwrs i'w gael yn ddwyieithog ar y campysau/lleoliadau canlynol :

  • Abergele
  • Dolgellau
  • Busnes@LlandrilloMenai, Parc Menai

Dwyieithog:

Ydi

Business and Management

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Business and Management

Myfyrwyr yn siarad mewn ystafell ddosbarth