Y Cwmpawd Mewnol: Llywio Eich Dyfodol gyda Phwrpas

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Busnes@LlandrilloMenai, Parc Busnes Llanelwy
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    4 awr

    ffi cwrs £75

Cofrestrwch
×

Y Cwmpawd Mewnol: Llywio Eich Dyfodol gyda Phwrpas

Cyrsiau Byr

Busnes@St Asaph
Cwrs SC: 24/10/25, 09:00 yb
Ffi dysgu:   £75.00  |  Ffi arholiad:   £0.00  |  Cyfanswm: £75.00
Busnes@St Asaph
Cwrs SC: 28/11/25, 09:00 yb
Ffi dysgu:   £75.00  |  Ffi arholiad:   £0.00  |  Cyfanswm: £75.00
Busnes@St Asaph
Cwrs SC: 04/09/25, 09:00 yb
Ffi dysgu:   £75.00  |  Ffi arholiad:   £0.00  |  Cyfanswm: £75.00
Busnes@St Asaph
Cwrs SC: 26/09/25, 09:00 yb
Ffi dysgu:   £75.00  |  Ffi arholiad:   £0.00  |  Cyfanswm: £75.00

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r gweithdy trawsnewidiol hwn yn galluogi cyfranogwyr i ddychmygu eu dyfodol delfrydol - yn bersonol neu'n broffesiynol - trwy dechnegau delweddu deinamig, gosod nodau, a dulliau hyfforddi pwerus. Byddwch yn gadael gyda gweledigaeth glir, map y gellir ei weithredu, a theimlad o hyder yn eich gallu i gyflawni eich gweledigaeth.

⁠Pam Dilyn y Cwrs?

I gael eglurder yn eich gweledigaeth

I gael gweledigaeth glir ac ysgogol ar gyfer eich dyfodol personol neu ddyfodol proffesiynol, yn unol â'ch gwerthoedd craidd a'ch angerdd.

Gosod Nodau Pwerus, Gweithredadwy

Dysgu sut i osod nodau SMART sy'n benodol, yn fesuradwy, yn gyraeddadwy, yn berthnasol, ac sydd â chyfyngiad amser.

Torri breuddwydion mawr yn gamau bach hylaw, a datblygu map ymarferol i'w ddilyn.

Cyflawni Cydbwysedd mewn Bywyd

Defnyddio dull hyfforddi Olwyn Bywyd i asesu a chydbwyso meysydd allweddol bywyd, i sicrhau cydbwysedd mewn twf a boddhad personol. ⁠ ⁠

Hwb i Hyder a Meddylfryd

Meithrin meddylfryd cadarnhaol a gwydn trwy ymarferion sy'n magu hyder a strategaethau ymarferol i oresgyn hunan-amheuaeth.

Meithrin meddylfryd twf sy'n grymuso cyfranogwyr i wthio heibio i heriau a chyrraedd eu potensial llawn.

Creu Bwrdd Gweledigaeth

Datblygu cynrychiolaeth weledol o'u nodau, eu dyheadau, a'u llwyddiant yn y dyfodol, gan ddefnyddio bwrdd gweledigaeth fel arf dyddiol ar gyfer cymhelliant ac ysbrydoliaeth.

Gadael gyda Map/Cynllun

Gadael gyda chynllun clir, ymarferol ar gyfer y camau nesaf yn eu taith tuag at gyflawni eu gweledigaeth.

Sefydlu arferion atebolrwydd i aros ar y trywydd iawn a pharhau â chynnydd y tu hwnt i'r gweithdy

I bwy mae’n addas?

  • Unigolion sy'n chwilio am gyfeiriad yn eu bywyd personol neu eu bywyd proffesiynol

  • Entrepreneuriaid a pherchnogion busnesau sy'n awyddus i fireinio eu gweledigaeth a'u nodau

  • Unrhyw un sydd eisiau creu mwy o gydbwysedd, cyflawniad a phwrpas yn eu bywyd

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Byr

Lefel: N/A

Maes rhaglen:

  • Business and Management

Business and Management

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Business and Management

Myfyrwyr mewn llyfrgell