Cefnogi Dysgu ac Addysgu Lefel 2 (Dysgu yn y Gweithle)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Dysgu seiliedig ar waith
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    12/15 mis

Gwnewch gais
×

Cefnogi Dysgu ac Addysgu Lefel 2 (Dysgu yn y Gweithle)

Prentisiethau

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Prif bwrpas y cymhwyster yw cadarnhau eich bod yn gymwys yn alwedigaethol yn eich rôl mewn ysgol gynradd ac uwchradd fel cynorthwyydd dysgu i grŵp o blant a / neu gefnogaeth un i un.

Bod yn hyderus i gefnogi plant oed ysgol gyda'u haddysg, materion ymddygiad a phlant gydag unrhyw anghenion ychwanegol.

Gofynion mynediad

Rhaid bod dros 16 oed ac yn gweithio mewn ysgol (cyflogedig neu wirfoddoli) am o leiaf 10-16 awr.

Cyflwyniad

Bydd asesydd yn cael ei benodi i chi a bydd sesiynau ar-lein, cefnogaeth trwy Google Classroom ac OneFile (e-bortffolio). Bydd asesydd yn dod i'ch gweithle i wneud lleiafswm o 4 arsylwad.

Asesiad

Bydd eich asesydd yn dod i'ch gweithle i asesu eich cymhwysedd.

Gwneir gwaith damcaniaethol trwy:

  • Astudiaethau Achos
  • Cwestiynau ac Atebion
  • Trafodaethau
  • Tystebau Tyst gan athrawon

Bydd diplomâu yn cael eu marcio gan asesydd yn y gweithle a'u cymedroli gan y dilyswr mewnol.

Dilyniant

Cymhwyster Lefel 3 Cefnogi Dysgu ac Addysgu os mewn rôl briodol.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Prentisiethau

Lefel: 2