Adolygiad Strategol o'ch Busnes 2025: Rhoi Hwb i’ch Perfformiad mewn Un Diwrnod
Manylion Allweddol
-
Ar gael yn:Busnes@LlandrilloMenai, Parc Busnes Llanelwy
-
Dull astudio:Rhan amser
-
Hyd:
1 day.
Adolygiad Strategol o'ch Busnes 2025: Rhoi Hwb i’ch Perfformiad mewn Un Diwrnod
Cyrsiau Byr
Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.
Disgrifiad o'r Cwrs
Dyheu i weld eich busnes yn tyfu neu wella perfformiad eich sefydliad?
Mae'r cwrs undydd penodol hwn yn cynnig yr amser, y lle a'r strwythur i chi gamu'n ôl o’ch gweithrediadau dyddiol ac asesu meysydd allweddol eich sefydliad mewn modd strategol. Byddwch yn cael cipolwg gwerthfawr ar sut i sbarduno twf cynaliadwy a chryfhau perfformiad cyffredinol.
Pam Dilyn y Cwrs?
Cael cipolwg cyfredol ar dueddiadau sy'n dod i'r amlwg ac arferion gorau ar draws meysydd busnes allweddol: Strategaeth, Pobl, Cyllid, Gweithrediadau, Marchnata a Chyfathrebu.
Meincnodi perfformiad presennol eich sefydliad, nodi meysydd i'w gwella, a dysgu am gyfleoedd newydd ar gyfer tyfu.
Camwch i ffwrdd o'ch gwaith dydd i ddydd i fyfyrio, ail-ganolbwyntio, a meddwl yn strategol am ble mae eich busnes ar hyn o bryd - ac i ble y gallai fynd.
I bwy mae’n addas?
Mae'r cwrs hwn yn addas ar gyfer:
Perchnogion busnesau sy'n ceisio datblygu ymhellach gyda phwrpas a chyfeiriad
Uwch-arweinwyr sydd am uchafu perfformiad ac alinio timau
Penaethiaid adrannau profiadol sy'n awyddus i gyfrannu'n fwy strategol
Manteisiwch ar y cyfle i wella eich meddwl strategol.
Bydd y penderfyniadau rydych chi'n eu gwneud heddiw yn llunio perfformiad a gwydnwch eich sefydliad yfory.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
N/A
Maes rhaglen:
- Business and Management
Business and Management
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
