CWRS TROSI RTITB MEWN DEFNYDDIO PEIRIANT CODI TELESGOPIG AR DIR GARW;

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    CIST-Llangefni
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    2 Diwrnod Mwyafswm 1 Gweithredwr

    3 Diwrnod Mwyafswm 2-3 Gweithredwr

Gwnewch gais
×

CWRS TROSI RTITB MEWN DEFNYDDIO PEIRIANT CODI TELESGOPIG AR DIR GARW;

Cyrsiau Byr

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r cwrs hwn ar gyfer gweithredwyr sydd wedi cael hyfforddiant ffurfiol ar dryc codi a weithredir gan y gweithredwr.

Gofynion mynediad

Dim

Cyflwyniad

Dysgu drwy gyfrwng gyfuniad o addysgu a gwaith ymarferol yn y dosbarth

Asesiad

Asesir gweithredwyr ar eu:

  • Gallu i wirio cerbyd cyn ei ddefnyddio
  • Theori a dealltwriaeth o'r terfynau gweithredu ac arferion gweithio diogel
  • Gallu ymarferol i weithredu'r peiriant yn ddiogel.

Dilyniant

Ar ôl cwblhau'r cwrs trosi hwn, gall weithredwyr fynd ymlaen i ddilyn cyrsiau eraill yn ymwneud â thryciau codi.

Gwybodaeth campws CIST-Llangefni

Mae'r cwrs ar gael yn ein canolfan hyfforddiant tryciau codi pwrpasol yng Ngholeg Menai Llangefni neu gellir ei gyflwyno ar eiddo cwsmeriaid.

Bydd y Cwrs Trosi RTITB mewn Defnyddio Peiriant Codi Telesgopig ar Dir Garw yn rhoi'r sgiliau i chi ddefnyddio'r tryciau'n ddiogel ac effeithlon, gwneud archwiliad cyn-ddefnydd, a chofio ac esbonio achosion ansefydlogrwydd tryciau a llwythi.

Er nad yw’n gyfyngedig iddynt, mae'r cwrs hwn yn cynnwys y meysydd canlynol:

  • Rheolyddion ac offer tryciau codi
  • Cychwyn/symud/stopio a llywio'r tryc
  • Defnyddio'r rheolyddion hydrolig
  • Gyrru oddi ar y ffordd ar dir garw ac ar rampiau.
  • Llwytho a dadlwytho cerbyd
  • Stacio a dad-stacio ar Dŵr Llwytho a staciau sy'n sefyll ar eu pennau eu hunain.
  • Sefydlogrwydd tryc codi
  • Cod diogelwch y gweithredwr

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Byr

Lefel: N/A

Dwyieithog:

No