Yn Barod i Arloesi?
Manylion Allweddol
-
Ar gael yn:Busnes@LlandrilloMenai, Parc Busnes Llanelwy
-
Dull astudio:Rhan amser
-
Hyd:
1 diwrnod.
ffi cwrs £110
Yn Barod i Arloesi?
Cyrsiau Byr
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae arloesi'n hanfodol, yn yr hinsawdd busnes sydd ohoni heddiw. P'un a ydych chi'n ceisio cadw ar y blaen i gystadleuwyr, gwella prosesau, neu ganfod rhagor o werth, arloesedd ydy'r allwedd i lwyddiant parhaol.
Mae'r cwrs undydd diddorol hwn yn cyflwyno'r dulliau, y meddylfryd a'r fframweithiau ymarferol i chi drawsnewid syniadau yn weithredoedd - a gwneud arloesedd yn greiddiol i'ch ffordd gweithio.
Pam dilyn y cwrs?
Deall y gwahanol fathau o arloesedd a sut maen nhw'n berthnasol i'ch sefydliad
Adnabod a goresgyn y rhwystrau cyffredin i arloesi
Defnyddio model arloesi cydnabyddedig i yrru syniadau newydd ymlaen
Defnyddio'r dechneg SCAMPER i hybu creadigrwydd a datrys problemau mewn ffyrdd newydd
Adnabod camau ymarferol i wella arloesedd yn eich tîm neu sefydliad
Dechrau ymgorffori diwylliant sy'n canolbwyntio ar arloesedd mewn yn eich gwaith bob dydd
I bwy mae’n addas?
Staff Gweithredol
Penaethiaid Adrannau
Rheolwyr Llinell
Arweinwyr tîm
Perchnogion busnesau bach
P'un a ydych chi'n arwain newid mewn tîm bach neu ar draws y sefydliad, bydd y cwrs hwn yn eich helpu i arwain arloesedd gyda hyder ac eglurder.
Cymerwch y Cam Cyntaf Tuag at Ddyfodol Mwy Arloesol
Rhowch hwb i'ch meddwl, egni i'ch timau, a chanfod sut i wneud arloesedd yn rhan o'ch busnes bob dydd.
Dechreuwch eich taith arloesi heddiw.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
N/A
Maes rhaglen:
- Business and Management
Business and Management
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
