Prentisiaeth – Cymorth Gofal Iechyd Clinigol Lefel 2

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Dysgu seiliedig ar waith
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    18 months

Gwnewch gais
×

Prentisiaeth – Cymorth Gofal Iechyd Clinigol Lefel 2

Prentisiethau

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r cymhwyster hwn ar gyfer gweithwyr cymorth gofal iechyd sy'n gweithio mewn lleoliadau clinigol mewn ysbytai yng Nghymru, yn rhoi cymorth i unigolion sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd Cymru dan gyfarwyddyd ymarferydd proffesiynol cofrestredig neu nyrs gofrestredig. Mae'n gymhwyster craidd sy'n cydnabod y rolau a gyflawnir gan weithwyr cymorth sy'n gweithio ag unigolion yn y lleoliadau hyn.

Rhaid i ddysgwyr gael eu cyflogi gan wasanaethau iechyd Cymru mewn swyddi lle mae sgiliau clinigol yn ganolog i'w swydd er mwyn dilyn y cymhwyster hwn. Fe'i datblygwyd i wella llywodraethu'r ymarfer yng Nghymru trwy gyflwyno dull sicrwydd ansawdd allanol.

Dyma’r cymhwyster a ffefrir ar gyfer cynorthwywyr gofal iechyd GIG Cymru, a disgwylir y bydd yr holl staff cymorth clinigol yn cael y cyfle i gwblhau’r cymhwyster a/neu gyflawni elfennau ohono ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus i gefnogi newidiadau mewn ymarfer dros amser.

Gofynion mynediad

  • Rhaid i ddysgwyr fod yn gyflogedig mewn lleoliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol addas.
  • TGAU - graddau D neu uwch (neu raddau cyfatebol) mewn Saesneg / Cymraeg, Mathemateg a Tch.G. Efallai y bydd gofyn i ddysgwyr heb y graddau hyn uwchsgilio yn gyntaf a bydd angen iddynt gwblhau cymwysterau sgiliau hanfodol Lefel 1 mewn Cyfathrebu, Chymhwyso Rhif a Llythrennedd Digidol.
  • Rhaid i ddysgwyr fod yn 18 oed o leiaf i ddilyn y cymhwyster hwn.

Cyflwyniad

Cyflawnir y cymhwyster hwn trwy ddysgu seiliedig ar waith ac fe'i cyflwynir ar sail un i un.

Asesiad

Rhaid i'r dysgwr gwblhau portffolio o dystiolaeth yn llwyddiannus sy'n cynnwys arsylwi ymarfer yn uniongyrchol

Dilyniant

Mae dysgwyr sy'n cyflawni'r cymhwyster hwn yn gymwys i ymarfer rolau gofal iechyd clinigol ar lefel sgiliau 2.

Mae'r cymhwyster wedi'i ddatblygu i ddarparu pwynt mynediad i addysg a sgiliau Lefel 3.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Prentisiethau

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Dwyieithog:

Darpariaeth dwyieithog ar gael

Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Myfyrwyr mewn ystafell ddosbarth