Arwain a rheoli ym maes Gofal Cymdeithasol - Prentisiaeth uwch

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Dysgu seiliedig ar waith
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    21 mis

Gwnewch gais
×

Arwain a rheoli ym maes Gofal Cymdeithasol - Prentisiaeth uwch

Prentisiethau

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Cynlluniwyd y cymhwyster hwn i ddarparu gweithwyr medrus o safon uchel i'r sector gofal cymdeithasol er mwyn cefnogi gwaith cynllunio a dilyniant i arweinwyr a rheolwyr yn y maes. Mae'n cynnig dilyniant i staff profiadol a chyfle i ennill y cymhwyster angenrheidiol i fynd ymlaen i reoli ac arwain ym maes gofal cymdeithasol.

Mae gofyn i reolwyr cartrefi gofal plant ac oedolion yng Nghymru gofrestru gyda Chyngor Gofal Cymru ac o 2013 ymlaen bydd rheolwyr gwasanaethau sy'n cynnig gwasanaeth hefyd yn gorfod cofrestru. Mae hwn yn gofrestr sydd yn seiliedig ar gymhwyster ac mae'r fframwaith yn cyflwyno'r cymwysterau y byddwch chi eu hangen ar gyfer y statws hwnnw. Mae'r cyrsiau hyn yn ddilyniant naturiol o'r cwrs Fframweithiau Ymarferwyr Uwch.

Mae nifer o lwybrau:

  • Rheoli Gwasanaethau i Oedolion
  • Rheoli Gwasanaethau Preswyl i Oedolion
  • Rheoli Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc
  • Rheoli Gwasanaethau Preswyl i Blant a Phobl Ifanc

Gofynion mynediad

  • Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol
  • Rhaid i brentisiaid fod yn 19 oed neu'n hyn, ac yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos ym maes gofal (yn ddelfrydol fel rheolwr mewn cartref preswyl; is-reolwr, neu ymarferwr uwch)
  • Rhaid i brentisiaid fod â chyflogwr a all fodloni meini prawf yr NVQ
  • Yn ddelfrydol, bydd prentisiaid wedi cwblhau Diploma Lefel 3 ym maes Gofal

Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.

Cyflwyniad

  • Darperir y rhan fwyaf o'r hyfforddiant yn y gweithle
  • Bydd gofyn i ddysgwyr fynychu sesiynau yn y coleg i gwblhau tasgau a phrofion theori

Asesiad

  • Cwblhau portffolio o dystiolaeth
  • Arsylwadau yn y gweithle
  • Tasgau a phrofion theori
  • Aseiniadau ysgrifenedig

Dilyniant

O Brentisiaeth Sylfaenol Lefel 2 i Brentisiaeth Lefel 3 ac yna i Brentisiaeth Uwch Lefel 4

Ariannwyd y rhaglen hwn yn rhannol gan Gronfa Cymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Prentisiethau

Lefel: 4-6

Maes rhaglen:

  • Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
  • Business and Management

Dwyieithog:

n/a

Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Myfyrwyr mewn ystafell ddosbarth

Business and Management

Myfyrwyr yn siarad mewn ystafell ddosbarth