Gweithiwr Proffesiynol ym maes TG, Meddalwedd, y We a Thelathrebu - Prentisiaeth Uwch

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos, Dysgu seiliedig ar waith
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    24 mis

Gwnewch gais
×

Gweithiwr Proffesiynol ym maes TG, Meddalwedd, y We a Thelathrebu - Prentisiaeth Uwch

Prentisiethau

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r fframwaith Prentisiaeth yn cynnig sgiliau, gwybodaeth a'r cymhwysedd sydd yn angenrheidiol i weithio ym maes Meddalwedd TG, Y We neu Thelathrebu mewn amrywiaeth o swyddi yn cynnwys:

  • Cymhorthydd Technegol TG
  • Datblygwr Meddalwedd
  • Datblygwr Gwe
  • Gweinyddwr Cronfa Ddata
  • Peiriannydd Telathrebu
  • Cynllunydd Rhwydwaith

Mae'r rhaglen brentisiaethau yn cyfuno sgiliau a gwybodaeth gyda gwaith ym maes TG, ac mae hynny'n golygu bod y prentisiaid yn derbyn cyflog yn ystod y rhaglen.

Gall prentisiaid ddefnyddio a gwella eu sgiliau yn y gweithle i gyd-fynd â'r hyfforddiant dan oruchwyliaeth hyfforddwr.

Gofynion mynediad

  • Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol ond mae profiad o ddefnyddio TG yn ddymunol
  • Rhaid i brentisiaid fod â chyflogwr a all fodloni meini prawf y cymhwyster

Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.

Cyflwyniad

  • Darperir y rhan fwyaf o'r hyfforddiant yn y gweithle gyda dau ddiwrnod yr wythnos yn y coleg
  • Bydd gofyn i ddysgwyr fynychu sesiynau yn y coleg i gwblhau tasgau a phrofion theori

Asesiad

  • Cwblhau portffolio o dystiolaeth
  • Arsylwadau yn y gweithle
  • Tasgau a phrofion theori

Dilyniant

Ariannwyd y rhaglen hwn yn rhannol gan Gronfa Cymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Prentisiethau

Lefel: 4-6

Maes rhaglen:

  • Business and Management

Dwyieithog:

Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:

  • Llandrillo-yn-Rhos

Business and Management

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Business and Management

Myfyrwyr yn siarad mewn ystafell ddosbarth