Cyflwyniad i Gefnogi Anghenion Dysgu Ychwanegol
Manylion Allweddol
-
Ar gael yn:Abergele
-
Dull astudio:Rhan amser
-
Hyd:
15 wythnos, 6 - 9pm
Cyflwyniad i Gefnogi Anghenion Dysgu Ychwanegol
Rhan amser
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r cymhwyster hwn yn rhoi'r cyfle i ddysgwyr ddatblygu eu gwybodaeth am gefnogi unigolion sydd ag anableddau dysgu. Mae'r cwrs ar gyfer y rhai hynny sy'n cefnogi neu'n gweithio gydag unigolion sydd ag anableddau dysgu fel rhan o'u gwaith.
Mae'r cwrs yn addas i'r rhai sydd yn dod i gysylltiad â phobl ag anableddau dysgu fel rhan o'u gwaith, er enghraifft ym maes iechyd, gofal, addysg, tai, hamdden, cyflogi, llyfrgelloedd a gwasanaethau prawf.
Gofynion mynediad
Sgiliau Llythrennedd Lefel 1.
Cyflwyniad
Cyflwynir drwy gyfuniad o gyflwyniadau, darlithoedd, gwaith grŵp a gwaith mewn parau.
Asesiad
Asesir y cwrs drwy gyfuniad o waith cwrs a gwaith portffolio.
Dilyniant
Dyfarniad NCFE CACHE Lefel 2 mewn Cefnogi Unigolion sydd ag Anableddau Dysgu.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Rhan amser
Lefel:
1
Dwyieithog:
n/a