Cyflwyniad i Blymwaith, Plastro a Thirlunio Gerddi Cyffredinol
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llangefni
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
6 wythnos, 2.5 awr, 17.30 - 20.00. 3 grŵp ar gael ar sail cylchdro
×Cyflwyniad i Blymwaith, Plastro a Thirlunio Gerddi Cyffredinol
Cyflwyniad i Blymwaith, Plastro a Thirlunio Gerddi CyffredinolRhan amser
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Cyflwyniad sylfaenol i dasgau plymio o gwmpas y tŷ, fel ailosod tapiau a wasieri, gosod tapiau allanol, tynnu ac ailosod rheiddiaduron, egwyddorion sylfaenol cysylltu pibellau plastig a chopr.
Tasgau plastro sylfaenol, gan gynnwys clytio a thrwsio, sgimio waliau a rendrad sylfaenol.
Tirlunio allanol sylfaenol, megis atgyweirio ac ailosod palmant a slabiau, adeiladu waliau sylfaenol a choncrit.
Gofynion mynediad
Dim.
Cyflwyniad
Arddangosiad ymarferol a thasgau.
Asesiad
Dim.
Dilyniant
Sylfaen Lefel 2 mewn Adeiladu a Gwasanaethau Adeiladu.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Rhan amser
Lefel:
0