Cyflwyniad i Ffotograffiaeth Ddigidol

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Caernarfon, Hwb Heli,Pwllheli, Archifau Ynys Môn, Llangefni
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    6 wythnos, 2 awr yr wythnos

Cofrestrwch
×

Cyflwyniad i Ffotograffiaeth Ddigidol

Rhan amser

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae’r cwrs hwn yn berffaith ar gyfer oedolion sy’n newydd i ffotograffiaeth ddigidol ac sydd eisiau dysgu sut i ddefnyddio ffôn symudol neu gamera digidol cryno yn hyderus i dynnu lluniau gwell. Byddwch yn dysgu sut i dynnu, gweld, storio ac argraffu eich lluniau mewn amgylchedd hamddenol a chyfeillgar. Nid oes angen profiad blaenorol - dim ond diddordeb mewn ffotograffiaeth a pharodrwydd i ddysgu.

Byddwch yn archwilio technegau syml i wella eich lluniau, deall swyddogaethau camera sylfaenol, a dysgu sut i drefnu a rhannu eich lluniau. Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sydd eisiau dal atgofion o deulu, gwyliau, natur a bywyd bob dydd.

Gofynion mynediad

Dim.

Cyflwyniad

Sesiynau rhyngweithiol ac anffurfiol, yn cynnwys:

  • Arddangosiadau tiwtor

  • Gwaith ymarferol

  • Trafodaethau grŵp

  • Rhannu lluniau

  • Cefnogaeth un-i-un

Asesiad

Dim.

Dilyniant

Dysgu ar lefel sgiliau uwch neu symud ymlaen i'n cyrsiau Cyfrifiadura a Sgiliau Digidol.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Rhan amser

Lefel: 0