Diploma Lefel 4 ILM mewn Egwyddorion Arwain a Rheoli (Cwrs Dysgu o Bell/Ar-lein dan arweiniad tiwtor)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    34 wythnos, rhan amser

Gwnewch gais
×

Diploma Lefel 4 ILM mewn Egwyddorion Arwain a Rheoli (Cwrs Dysgu o Bell/Ar-lein dan arweiniad tiwtor)

Proffesiynol

Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.

Disgrifiad o'r Cwrs

Manteision i unigolion

● Ennyn y wybodaeth i gefnogi eich rôl fel rheolwr canol

● Rheoli eich datblygiad personol

● Deall newid yn y gweithle

● Meithrin perthnasau cadarnhaol a chynhyrchiol yn y gwaith

● Cael cymhwyster cydnabyddedig cenedlaethol.

Y manteision i gyflogwyr

● Rheolwyr canol brwdfrydig sydd wedi profi eu gallu i berfformio

● Rheolwyr sy'n gallu asesu a gwella eu datblygiad

● Timau sy'n cyfathrebu ac yn cydweithio'n well

Gofynion mynediad

Dyluniwyd Diploma Lefel 4 mewn Egwyddorion Arwain a Rheoli i ddatblygu rheolwyr canol a rheolwyr atebol cyntaf uchelgeisiol. Mae dysgwyr yn meithrin sgiliau craidd mewn rheoli ar y lefel canol. Mae'r Diploma hefyd yn ffurfio rhan o Brentisiaeth Lefel 4 ILM mewn Rheoli .

Cyflwyniad

Sesiynau/darlithoedd yn y coleg, gwaith grŵp, astudio personol, aseiniadau seiliedig ar waith, ac adfyfyrio.

Asesiad

Deall rôl rheolwyr er mwyn gwella perfformiad ym maes rheoli - Aseiniad Seiliedig ar Waith - Mae'r aseiniad hwn yn gofyn i chi ddeall cyfrifoldebau penodol rheolwyr canol o ran galluogi sefydliad i gyrraedd ei nodau Deall sut mae sgiliau cyfathrebu a sgiliau rhyngbersonol yn effeithio ar berfformiad rheolwyr yn y gweithle a gallu asesu cyfleoedd datblygu personol er mwyn gwella'ch perfformiad eich hun fel rheolwr

Dirprwyo awdurdod yn y gweithle - Aseiniad Seiliedig ar Waith - Mae'r aseiniad hwn yn gofyn i chi ddeall manteision dirprwyo er mwyn gallu dirprwyo'n effeithiol yn y gweithle yn ogystal â gwella eich gallu personol i ddirprwyo a grymuso eraill.

Asesu eich gallu a'ch perfformiad eich hun wrth arwain - Aseiniad Seiliedig ar Waith - Mae'r aseiniad hwn yn gofyn i chi ddeall steiliau arwain gwahanol mewn sefydliad. Gallu adolygu pa mor effeithiol yw eich gallu a'ch perfformiad eich hun wrth reoli o ran bodloni gwerthoedd a nodau'r sefydliad. Gwneir hyn drwy fabwysiadu steil effeithiol o arwain i gymell staff i gyrraedd nodau a gwerthoedd y sefydliad.

Rheoli datblygiad personol - Portffolio Datblygiad Personol - Mae hyn yn gofyn i chi gofnodi sut fyddech chi'n nodi ac yn blaenoriaethu gofynion datblygiad yn y gwaith. Gweithredu a gwerthuso gweithgareddau o ran datblygiad a rhoi'r hyn a ddysgir ar waith yn y gweithle. Deall yr effaith a gaiff datblygiad ar berfformiad yn y gweithle.Gwneir hyn am o leiaf chwe mis.

Rheoli a rhoi newid ar waith yn y gweithle a Deall a datblygu perthnasau yn y gweithle - Aseiniad Seiliedig ar Waith - Mae'r aseiniad hwn yn gofyn i chi ddeall y rhesymau dros gyflwyno newid mewn sefydliad. Canfod a diwallu anghenion a/neu ddisgwyliadau pobl eraill a rheoli perthnasau wrth roi newid ar waith yn y gweithle.

Rheoli cyfarfodydd Aseiniad Seiliedig ar Waith - Mae'r aseiniad hwn yn gofyn i chi ddeall y gwahanol fathau o gyfarfodydd a pha mor addas ydynt ar gyfer dibenion gwahanol. Yn ogystal â hyn mae gofyn deall sut i baratoi'n effeithiol ar gyfer unrhyw gyfarfod. Gallu datblygu perfformiad personol wrth reoli cyfarfodydd a dilyn a rheoli camau gweithredu yn effeithiol yn dilyn cyfarfodydd.

Dilyniant

Dyfarniad, Tystysgrif a Diploma Lefel 5 ILM mewn Arwain a Rheoli

Dyfarniad Lefel 5 ILM mewn Hyfforddi a Mentora

Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos

Cysylltwch â ilm@gllm.ac.uk

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Proffesiynol

Lefel: 4

Maes rhaglen:

  • Business and Management

Dwyieithog:

n/a

Business and Management

Myfyrwyr yn siarad mewn ystafell ddosbarth