Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Abergele, Bangor, Online
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    30 wythnos, 3 awr yr wythnos

Cofrestrwch
×

TGAU Mathemateg (Rhifedd)

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Abergele
Cwrs dydd: 15/09/25, 09:30 yb
Ffi dysgu: £190.00 | Ffi arholiad: £45.00 | Cyfanswm: £235.00
Bangor
Cwrs dydd: 19/09/25, 09:30 yb
Ffi dysgu: £190.00 | Ffi arholiad: £45.00 | Cyfanswm: £235.00
Abergele
Cwrs nos: 15/09/25, 17:30 yh
Ffi dysgu: £190.00 | Ffi arholiad: £45.00 | Cyfanswm: £235.00
Dysgu O Bell
Cwrs nos: 15/09/25, 17:30 yh
Ffi dysgu: £190.00 | Ffi arholiad: £45.00 | Cyfanswm: £235.00

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Bydd llawer o brifysgolion a chyflogwyr yn disgwyl i chi gael TGAU gradd C neu uwch mewn Mathemateg - Rhifedd. Os na chawsoch y cymhwyster hwn yn yr ysgol, bydd Grŵp Llandrillo Menai'n rhoi cyfle i chi wella'ch gradd er mwyn i chi allu mynd ymlaen i ddilyn rhaglen addysg bellach neu addysg uwch addas neu i swydd.

Neu mae'n bosibl eich bod am astudio Rhifedd am eich bod yn mwynhau dysgu ac wrth eich bodd gyda'r pwnc? Bydd croeso i chi ar ein cwrs!

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng TGAU Mathemateg - Rhifedd a TGAU Mathemateg?

  • Bydd TGAU Mathemateg - Rhifedd yn asesu'r fathemateg y bydd arnoch chi angen ei defnyddio mewn bywyd bob dydd ac yn y byd gwaith
  • Bydd TGAU Mathemateg yn ymestyn i'r agweddau mathemateg sy'n ofynnol i fynd ymlaen i astudiaethau mathemategol, gwyddonol neu dechnegol pellach.

At bwy mae'r cwrs wedi'i anelu?

Unrhyw un â diddordeb mewn cael cymhwyster TGAU neu'n dymuno gwella'u gradd flaenorol yn y pwnc.

Os ydych o dan 16 oed, cyfeiriwch at ein hadran Cwestiynau Cyffredin.

Meysydd Allweddol y byddwch yn eu hastudio:

Edrychir ar nifer o feysydd yn ystod y cwrs, gyda'r cyfan yn cael eu hastudio mewn cyd-destun bywyd bob dydd. Bydd hyn yn cynnwys:

  • Rhifau (e.e. Canrannau, cymarebau a chyfrannedd, biliau aelwyd a Threth Incwm
  • Ystadegau (e.e. Siartiau, Graffiau, Cyfartaleddau a rhagor)
  • Siapiau (e.e. Arwynebedd, Cyfaint, Unedau, Pythagoras a thrigonometreg sylfaenol)
  • Algebra (e.e. Sut i ddefnyddio fformiwlâu a hafaliadau

Cost

£235 (£150 ffi dysgu, £45 ffi arholiad)

Gofynion mynediad

Mae angen dealltwriaeth dda o gysyniadau mathemateg sylfaenol felly byddwch yn cwblhau asesiad cyn i chi gofrestru. Os yw'n briodol, byddwn yn argymell cwrs gwahanol cyn i chi gofrestru ar gyfer TGAU ac ad-dalu eich ffi cyrsiau.

Os nad ydych wedi sefyll yr arholiad o'r blaen, neu os cafodd ei sefyll gryn amser yn ôl, bydd eich tiwtor yn cael sgwrs gyda chi i benderfynu a yw'r cwrs hwn yn iawn i chi.

Os hoffech astudio'r cwrs hwn ar-lein, mae angen y dechnoleg ganlynol:

  • Gliniadur/Penbwrdd/Tabled
  • Cysylltiad band eang sefydlog
  • Bydd disgwyl i chi gael camera a siaradwr gweithredol i gyfrannu'n llawn yn y wers

Bydd disgwyl i ddysgwyr gael mynediad at e-byst, Google Classroom ac o bosibl offer ar-lein eraill a fydd yn cefnogi eu dysgu. Darperir cymorth i gael mynediad at y rhain.

Cyflwyniad

  • Cynigir cyrsiau wyneb yn wyneb ac ar-lein

  • Trafodaethau

  • Ymchwilio’n annibynnol

  • Gwaith grŵp

  • Gosodir gwaith cartref yn rheolaidd

Rhaid i chi gyrraedd o leiaf 85% o gyfradd presenoldeb ar y cwrs hwn.

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU
Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

Dau arholiad ysgrifenedig (un gyda chyfrifiannell ac un heb gyfrifiannell).

Dyddiadau Arholiadau Dros Dro yw: Dydd Iau 7 Mai 2026 (yb) a dydd Mercher 3 Mehefin 2026 (yb).

Dilyniant

Gallech ddewis un o blith amryw o gyrsiau gwahanol sydd ar gael yng Ngrŵp Llandrillo Menai.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach), Rhan amser

Lefel: 2

Mae'r cwrs i'w gael yn ddwyieithog ar y campysau/lleoliadau canlynol :

  • Llangefni
  • Online