Gwella eich Sgiliau Cyflwyno a Siarad yn Gyhoeddus
Manylion Allweddol
-
Ar gael yn:Busnes@LlandrilloMenai, Parc Busnes Llanelwy
-
Dull astudio:Rhan amser
-
Hyd:
4 awr.
ffi cwrs £75.
Gwella eich Sgiliau Cyflwyno a Siarad yn Gyhoeddus
Cyrsiau Byr
Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.
Disgrifiad o'r Cwrs
Gall cyflwyno neu siarad o flaen cynulleidfa fod yn frawychus.
P'un ai ydych chi'n ceisio rheoli eich nerfusrwydd, cadw diddordeb pobl, neu gyflwyno eich neges yn glir, mae siarad cyhoeddus yn sgil y gellir ei mireinio.
Mae'r sesiwn ymarferol hon yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sy'n cyflwyno'n rheolaidd mewn cyfarfodydd, yn arwain sesiynau hyfforddi neu'n cyflwyno i gleientiaid — ac sydd eisiau esgyn eu sgiliau cyfathrebu i'r lefel nesaf.
Pam dilyn y cwrs?
Deall egwyddorion allweddol siarad cyhoeddus a chyflwyno’n effeithiol
Defnyddio mewnwelediadau o adrodd straeon a niwrowyddoniaeth i ddylanwadu ar gynllunio cyflwyniadau.
Meithrin hyder wrth gyflwyno cyflwyniadau'n glir, ac mewn modd diddorol ac effeithiol.
Dysgu sut i strwythuro'ch cynnwys er mwyn cadw sylw'r gynulleidfa i'r eithaf
Ymarfer technegau i reoli'r nerfau a siarad yn eglur ac yn awdurdodol
Ymgysylltu â'ch cynulleidfa yn fwy effeithiol trwy iaith y corff, eich llais a'ch presenoldeb
Meddu ar strategaethau ymarferol i ddelio â sesiynau Holi ac Ateb a rheoli sefyllfaoedd heriol.
I bwy mae’n addas?
Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer:
Gweithwyr proffesiynol sy'n cyflwyno'n rheolaidd ond sydd eisiau gwella eu heffaith a'u hyder
Rheolwyr, arweinwyr tîm, neu hwyluswyr sy'n arwain trafodaethau neu weithdai
Unigolion sy'n paratoi ar gyfer digwyddiadau siarad cyhoeddus neu gyflwyno i ddarbwyllo darpar gleientiaid
Unrhyw un sy'n dioddef o fraw llwyfan neu'n cael trafferth cynnal ymgysylltiad â'r gynulleidfa
Cyfle i ddysgu strategaethau ymarferol, technegau profedig, a chanfod hyder newydd i gyflwyno cyflwyniadau sy'n hysbysu, yn ysbrydoli ac yn perswadio — dim ots beth yw'r lleoliad na maint y gynulleidfa.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
N/A
Maes rhaglen:
- Business and Management
Business and Management
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
