Coedwigaeth Lefel 2
Manylion Allweddol
-
Ar gael yn:Glynllifon
-
Dull astudio:Llawn amser
-
Hyd:
1 flwyddyn
Coedwigaeth Lefel 2
Llawn Amser (Addysg Bellach)
Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.
Disgrifiad o'r Cwrs
Hoffech chi gael gyrfa ym maes coedwigaeth neu'n rheoli cefn gwlad a'r amgylchedd? A fyddech chi'n elwa o ddilyn cwrs Lefel 2 ymarferol a galwedigaethol?
Cynlluniwyd y cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr sydd â rhywfaint o wybodaeth am y diwydiant, ac sydd am ddysgu rhagor am amrediad o bynciau a materion amgylcheddol. Bydd yn eich paratoi i ddechrau gyrfa neu i fynd ymlaen i ennill cymwysterau galwedigaethol uwch.
Mae'r cwrs yn addas i fyfyrwyr sydd wedi cwblhau cwrs Lefel 1 perthnasol, i rai sydd newydd sefyll eu TGAU, neu i rai sydd â phrofiad blaenorol. Canolbwyntia ar waith ymarferol, a chynhelir sesiynau yn y dosbarth i'ch helpu i ehangu'ch gwybodaeth. Byddwch yn elwa ar y cyfleusterau rhagorol sydd yng Nglynllifon ac ar arbenigedd ein staff.
Gofynion mynediad
I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:
- 3 TGAU gradd D neu uwch ac 1 TGAU gradd E, yn cynnwys Mathemateg a Saesneg neu Gymraeg (iaith 1af), neu gymhwyster Mynediad 3 / Lefel 1 Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Rhifedd a Chyfathrebu
- Gradd Llwyddo mewn cymhwyster Lefel 1 perthnasol
- Profiad perthnasol mewn diwydiant
Bydd angen hefyd i chi fod wedi cael presenoldeb o 86% yn eich blwyddyn astudio flaenorol.
Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.
Cyflwyniad
Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:
- Gwaith ymarferol, gyda rhai sesiynau yn y dosbarth i wella dealltwriaeth
- Saif Glynllifon ar 750 acer o dir amaethyddol a choetir, a cheir yno adnoddau arbenigol a chyfarpar arbenigol er mwyn i chi allu astudio coedwigaeth mewn amgylchedd realistig.
Bagloriaeth Cymru
Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster gwerthfawr a astudir yn aml ochr yn ochr â chwrs llawn amser.
Caiff y cymhwyster, sy'n werth hyd at 120 pwynt UCAS, ei raddio A*–E a bydd yn rhoi i chi sgiliau personol a sgiliau busnes trosglwyddadwy. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr.
Yn rhan o'r cymhwyster, byddwch yn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, Mentergarwch a Chyflogadwyedd, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac yn mynd ar brofiad gwaith.
Asesiad
Ar y rhaglen, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau canlynol:
- Asesiadau ymarferol yn y rhan fwyaf o'r unedau
- Aseiniadau ysgrifenedig i ddangos eich dealltwriaeth
Dilyniant
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, bydd gennych nifer o ddewisiadau. Gallech fynd ymlaen i ddilyn nifer o gyrsiau yng Ngrŵp Llandrillo Menai, gan gynnwys:
- Rheoli Cefn Gwlad (gan gynnwys Coedwigaeth) Lefel 3
- Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 mewn Cadwraeth Amgylcheddol
Gallech hefyd fynd ymlaen i ddilyn Prentisiaeth neu i waith.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach), Rhan amser
Lefel:
2
Dwyieithog:
Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:
- Glynllifon