Dyfarniad Lefel 6 CIM mewn Effaith Gymdeithasol
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Online
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
Cyflwynir y modiwl hwn yn wythnosol, fel arfer ar fore Iau, am wyth wythnos.
Cynigir tri chyfle i ddechrau'r cwrs bob blwyddyn, ym mis Medi, mis Ionawr a mis Ebrill.
Dyfarniad Lefel 6 CIM mewn Effaith GymdeithasolProffesiynol
Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.
Disgrifiad o'r Cwrs
Wrth i heriau cymdeithasol barhau i gynyddu, mae'r disgwyliadau sy'n cael eu rhoi ar fusnesau i weithredu fel catalydd ac ysgogydd newid cadarnhaol hirdymor i gefnogi pobl, y blaned ac elw yn dwysáu. Mae angen cynyddol i farchnatwyr ehangu eu cylch gwaith i fynd i'r afael â'r rhain.
Nod y modiwl hwn yw rhoi dealltwriaeth glir o'r dirwedd weithredu sy'n newid a'r heriau cymdeithasol ac amgylcheddol.
Byddwch yn gallu adeiladu achos busnes dros newid a datblygu strategaeth farchnata gynaliadwy neu gymdeithasol gan ddefnyddio mewnwelediadau a data.
Byddwch hefyd yn gallu cyflwyno metrigau allweddol sy'n ystyried ac yn cyflawni yn erbyn nodau ac amcanion busnes a chymdeithasol/amgylcheddol, yn y tymor byr a'r tymor hir.
Byddwch hefyd yn ystyried meysydd fel Cydraddoleb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, moeseg, lles dynol a chynaliadwyedd.
Bydd y cwrs hwn yn rhoi hyder i chi ac yn gwella eich gwybodaeth farchnata fel Rheolwr Marchnata, neu'n eich helpu i sicrhau
Gofynion mynediad
Mae angen un neu ragor o'r canlynol i gwblhau cymhwyster Lefel 6:
- Cymhwyster Lefel 4 CIM neu gymhwyster cyfatebol perthnasol.
- Prentisiaeth Lefel 4 mewn Marchnata.
- Gradd Baglor neu radd Meistr, gyda thraean o'r credydau wedi'u seilio ar faes marchnata.
- Profiad proffesiynol (awgrymir dwy flynedd o brofiad marchnata mewn swydd weithredol).
Cyflwyniad
Cyflwynir y cwrs trwy wersi ar-lein a arweinir gan diwtor. Byddwch yn cael mynediad i'r gwersi hyn trwy Google Meet.
Cewch eich annog i rannu syniadau ac i gymryd rhan mewn gwaith grŵp trwy sesiynau rhyngweithiol.
Asesiad
Asesir y cymhwyster hwn ar-lein trwy arholiad amlddewis. Cewch sefyll yr arholiadau gartref neu yn eich gweithle.
Mae'r asesiadau'n bodloni anghenion cyflogwyr, yn ymarferol, yn berthnasol ac yn addas i fusnesau.
Dilyniant
Gallwch barhau i astudio Dyfarniadau Lefel 6 eraill i ennill y cymhwyster Diploma.
Edrychwch ar y dudalen cymhwyster Diploma Lefel 6 i weld pa fodiwlau sydd angen i chi eu cwblhau i ennill y cymhwyster hwn.
Bydd y cwrs hwn yn helpu'r rhai sydd â phrofiad marchnata i gael dyrchafiad i fod yn rheolwr marchnata.
Bydd yn eich helpu i sicrhau cyfleoedd gyrfa lefel uwch mewn sefydliadau.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Proffesiynol, Cyrsiau Byr
Lefel:
6
Maes rhaglen:
- Business and Management
Sefydliad dyfarnu: Chartered Institute of Marketing
Business and Management
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Sefydliad dyfarnu
