Dyfarniad Lefel 4 CIM mewn Marchnata trwy'r Cyfryngau Cymdeithasol

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Online
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    Addysgir y cwrs hwn mewn sesiynau tair awr gyda dwy awr o amser tiwtorial ychwanegol yr wythnos, fel arfer ar fore Mawrth, dros gyfnod o wyth wythnos.

    Asesir y cymhwyster hwn ar-lein trwy arholiad amlddewis.

Cofrestrwch
×

Dyfarniad Lefel 4 CIM mewn Marchnata trwy'r Cyfryngau Cymdeithasol

Proffesiynol

Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae marchnata drwy'r cyfryngau cymdeithasol yn cynnwys defnyddio llwyfannau cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo cynhyrchion, gwasanaethau neu frandiau ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd; gan ysgogi'r camau gweithredu a ddymunir.

Mae'n bwysig oherwydd ei allu i gyrraedd cynulleidfa eang, meithrin ymwybyddiaeth am frand, a meithrin perthnasoedd â chwsmeriaid, gan ei wneud yn declyn hanfodol i farchnatwyr.

Mae'r modiwl yn cynnwys tri deilliant allweddol:

1. Deall pwysigrwydd cynyddol y cyfryngau cymdeithasol i sefydliadau a'u cwsmeriaid

2. Y gwahanol sianelau cyfryngau cymdeithasol sydd ar gael i sefydliadau eu defnyddio yn ogystal â'r cynnwys sydd ei angen i'w cefnogi

3. Creu cynllun marchnata cyfryngau cymdeithasol a sut i'w fesur.

Mae'r cwrs hwn yn addas i farchnatwyr sydd â blwyddyn o brofiad neu gymhwyster Lefel 3.

Efallai eich bod mewn rôl marchnata mewn sefydliad neu fod gennych swydd lle mae marchnata yn rhan fawr o'ch cyfrifoldebau.

Bydd y cwrs hwn yn rhoi hyder i chi ac yn gwella eich gwybodaeth am farchnata.

Gofynion mynediad

Bydd angen o leiaf blwyddyn o brofiad yn y diwydiant arnoch neu gymhwyster Lefel 3 perthnasol i astudio'r cwrs Tystysgrif mewn Marchnata Proffesiynol ar Lefel 4.

Fel arall, byddai Prentisiaeth Lefel 3 hefyd yn cael ei derbyn.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs trwy wersi ar-lein a arweinir gan diwtor. Byddwch yn cael mynediad i'r gwersi hyn trwy Google Meet.

Cewch eich annog i rannu syniadau ac i gymryd rhan mewn gwaith grŵp trwy sesiynau rhyngweithiol.

Asesiad

Asesir y cymhwyster hwn ar-lein trwy arholiadau amlddewis. Cewch sefyll yr arholiadau gartref neu yn eich gweithle.

Mae'r asesiadau'n bodloni anghenion cyflogwyr, yn ymarferol, yn berthnasol ac yn addas i fusnesau.

Dilyniant

Mae'r dyfarniad hwn yn rhan o gymhwyster Tystysgrif Lefel 4 CIM mewn Marchnata Proffesiynol a Digidol.

Bydd cwblhau cymwysterau Lefel 4 CIM yn llwyddiannus yn rhoi i chi'r wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth i allu gweithredu fel 'Swyddog Marchnata' ac i gyflawni rôl farchnata broffesiynol hanfodol a llwyddiannus yn y gweithle.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Proffesiynol, Cyrsiau Byr

Lefel: 4

Maes rhaglen:

  • Business and Management

Sefydliad dyfarnu: Chartered Institute of Marketing

Business and Management

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Business and Management

Myfyrwyr mewn llyfrgell

Sefydliad dyfarnu