Dyfarniad Lefel 3 CIM mewn Hanfodion Marchnata

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Online
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    Cynhelir y cwrs am 3 awr yr wythnos am 8 wythnos ac fe'i hasesir ar-lein trwy arholiad amlddewis.

Cofrestrwch
×

Dyfarniad Lefel 3 CIM mewn Hanfodion Marchnata

Proffesiynol

Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.

Disgrifiad o'r Cwrs

Pwrpas y modiwl yw rhoi dealltwriaeth i ddysgwyr o egwyddorion sylfaenol marchnata a pha mor bwysig yw marchnata i lwyddiant sefydliad. Byddwn yn edrych ar bwrpas a swyddogaeth marchnata mewn sefydliadau ac ar sut i gynnal archwiliad marchnata er mwyn deall sut i ddefnyddio dulliau marchnata amrywiol. Byddwch yn datblygu'r sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol i ffurfio strategaethau marchnata effeithiol a all wthio effeithiolrwydd a llwyddiant sefydliad. Mae'r cwrs yn addas i weithwyr marchnata newydd a'r sawl sy'n gobeithio gweithio yn y maes. Efallai eich bod yn dechrau eich busnes eich hun neu'n awyddus i newid gyrfa. Gall y cwrs hwn eich helpu i gychwyn eich taith farchnata.

Gofynion mynediad

Nid oes angen profiad marchnata blaenorol. Mae cymwysterau Lefel 3 CIM yn addas i weithwyr marchnata newydd a'r sawl sy'n gobeithio gweithio yn y maes, ac yn rhoi sylfaen i chi ar gyfer gyrfa lwyddiannus.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs trwy wersi ar-lein a arweinir gan diwtor. Byddwch yn cael mynediad i'r gwersi hyn trwy Google Meet. Cewch eich annog i rannu syniadau ac i gymryd rhan mewn gwaith grŵp trwy sesiynau rhyngweithiol.

Asesiad

Asesir y cymhwyster hwn ar-lein trwy arholiad amlddewis. Cewch sefyll yr arholiad gartref neu yn eich gweithle. Mae'r asesiadau'n bodloni anghenion cyflogwyr, yn ymarferol, yn berthnasol ac yn addas i fusnesau.

Dilyniant

Gall y cymhwyster eich helpu i gael swydd farchnata mewn sefydliad, gan fod cyflogwyr yn chwilio am gymwysterau ymarferol wrth ddewis gweithwyr newydd. Bydd y cymhwyster hwn yn helpu busnesau newydd, neu fusnesau bach neu ganolig, i ganfod cwsmeriaid newydd a datblygu eu busnes.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Proffesiynol, Cyrsiau Byr

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Business and Management

Sefydliad dyfarnu: Chartered Institute of Marketing

Business and Management

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Business and Management

Myfyrwyr mewn llyfrgell

Sefydliad dyfarnu