Dyfarniad Lefel 3 CIM mewn Cynnwys a Sianeli Marchnata
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Online
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
Cynhelir y cwrs am 3 awr yr wythnos am 8 wythnos ac fe'i hasesir ar-lein trwy arholiad amlddewis.
Dyfarniad Lefel 3 CIM mewn Cynnwys a Sianeli MarchnataProffesiynol
Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r cwrs yn addas i weithwyr marchnata newydd a'r sawl sy'n gobeithio gweithio yn y maes.
Efallai eich bod yn dechrau eich busnes eich hun neu'n awyddus i newid gyrfa.
Gall y cwrs hwn eich helpu i gychwyn eich taith farchnata.
Gofynion mynediad
Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno'r math o gynnwys y gall marchnatwyr ei greu, yn ogystal â'r dulliau a all gael eu defnyddio i'w gyhoeddi a'i hyrwyddo.
Ar ôl cwblhau'r modiwl, byddwch yn gallu argymell y dull mwyaf addas i'w ddefnyddio ar gyfer eich marchnata.
Byddwch yn gallu dehongli nodau ac amcanion busnes, yn ogystal â'ch cynulleidfa darged, er mwyn awgrymu cynnwys priodol.
Yn olaf, byddwch yn adnabod y cysylltiadau rhwng cynnwys a sianeli, a'u haddasrwydd ym mhob achos.
Nid oes angen profiad marchnata blaenorol.
Mae cymwysterau Lefel 3 CIM yn addas i weithwyr marchnata newydd a'r sawl sy'n gobeithio gweithio yn y maes, ac yn rhoi sylfaen i chi ar gyfer gyrfa lwyddiannus.
Cyflwyniad
Cyflwynir y cwrs trwy wersi ar-lein a arweinir gan diwtor. Byddwch yn cael mynediad i'r gwersi hyn trwy Google Meet.
Cewch eich annog i rannu syniadau ac i gymryd rhan mewn gwaith grŵp trwy sesiynau rhyngweithiol.
Asesiad
Asesir y cymhwyster hwn ar-lein trwy arholiad amlddewis. Cewch sefyll yr arholiad gartref neu yn eich gweithle.
Mae'r asesiadau'n bodloni anghenion cyflogwyr, yn ymarferol, yn berthnasol ac yn addas i fusnesau.
Dilyniant
Gall y cymhwyster eich helpu i gael swydd farchnata mewn sefydliad, gan fod cyflogwyr yn chwilio am gymwysterau ymarferol wrth ddewis gweithwyr newydd.
Bydd y cymhwyster hwn yn helpu busnesau newydd, neu fusnesau bach neu ganolig, i ganfod cwsmeriaid newydd a datblygu eu busnes.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Proffesiynol, Cyrsiau Byr
Lefel:
3
Maes rhaglen:
- Business and Management
Sefydliad dyfarnu: Chartered Institute of Marketing
Business and Management
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Sefydliad dyfarnu
