Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Parc Menai, Dolgellau
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    2.5 awr yr wythnos 10 wythnos ar ddydd Iau a dydd Gwener.

Cofrestrwch
×

Crochenwaith

Rhan amser

Dolgellau
Cwrs dydd: 25/09/25, 18:00 yh
Dolgellau
Cwrs dydd: 26/09/25, 13:00 yh

Disgrifiad o'r Cwrs

Dewch i ddefnyddio'ch dychymyg wrth ddefnyddio clai.

Rydym yn cynnig cyrsiau Cerameg rhan-amser a fydd yn dangos i chi sut i ddefnyddio technegau fel pinsio, torchi, slabio, gwydro a thaflu.

Mae croeso i bawb, o'r rhai nad ydynt erioed wedi cyffwrdd â chlai i'r rhai sydd â phrofiad o ddefnyddio ffurfiau celf eraill ac sydd am arbrofi a dysgu rhagor, a chael hwyl!

COFIWCH: Gwisgwch hen ddillad – mi fyddwch chi'n baeddu!

Gofynion mynediad

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn.

Cyflwyniad

Cynhelir y gwersi yn y dosbarth gan ddefnyddio amrywiaeth eang o ddulliau dysgu a fydd yn cynnwys dangos, rhannu ac arwain.

Asesiad

  • Dim

Dilyniant

Cewch roi cynnig ar gyrsiau hamdden eraill sy'n mynd â'ch bryd.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Rhan amser

Lefel: N/A

Dwyieithog:

n/a