Carbon Monoxide/Dioxide Direct Analysis (CMDDA1)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    CIST-Llangefni
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    2 ddiwrnod

Gwnewch gais
×

Carbon Monoxide/Dioxide Direct Analysis (CMDDA1)

Cyrsiau Byr

Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae angen i beirianwyr nwy sy'n cael eu galw allan i ymdrin â gollyngiadau CO mewn cartrefi gael hyfforddiant mewn cynnal profion carbon deuocsid/ carbon monocsid. Yn aml, sonnir ar y newyddion am bobl yn cael eu gwenwyno â charbon monocsid, felly mae'r modiwl achrededig hwn yn bwysig iawn o ran diogelwch eich cwsmeriaid.

Gofynion mynediad

Rhaid i rai sy'n cael eu hyfforddi a'u hasesu ar y cwrs CMDDA1 feddu ar gymhwyster Diogelwch Nwy yn y Cartref (CCN1) neu gymhwyster Diogelwch Nwy LPG (CCLP1) neu gymhwyster NVQ neu QCF cyfatebol dilys, ynghyd ag offer priodol.

Cyflwyniad

Darperir llawlyfr yn ystod y cwrs. Yn ogystal, dylai gweithwyr fod yn gyfarwydd â BS EN 7967 Rhan 1–4. ⁠Caiff ymgeiswyr CMDDA1 eu hyfforddi a'u hasesu yn y meysydd a ganlyn:

  • Profi a oes CO a CO2 yn yr amgylchedd
  • Dadansoddi pa mor dda mae offer nwy'n llosgi mewn cartrefi, gan ddefnyddio dadansoddwyr nwy electronig, cludadwy:
  • Arwyddion o fygdarthau
  • Arogleuon
  • Offer llosgi’n gollwng
  • Rhoi synhwyrydd carbon monocsid ar waith

Asesiad

Asesiadau ymarferol a gwaith theori.

Dilyniant

Cyrsiau eraill yn y Grŵp.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Byr

Lefel: N/A

Mae'r cwrs i'w gael yn ddwyieithog ar y campysau/lleoliadau canlynol :

  • CIST-Llangefni

Dwyieithog:

Cyflwynir y cwrs yn ddwyieithog. Asesir yn Saesneg yn unig.