Busnes a Gweinyddu Proffesiynol (Prentisiaeth Uwch)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Dysgu seiliedig ar waith
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    18 mis

Gwnewch gais
×

Busnes a Gweinyddu Proffesiynol (Prentisiaeth Uwch)

Prentisiethau

Ar gyfer cyrsiau Prentisiaeth, rhaid cysylltu a Busnes@LlandrilloMenai ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r fframwaith hwn wedi ei gynllunio i gwrdd ag anghenion sgiliau cyflogwyr o bob maint ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat ac nid-er-elw yng Nghymru. Bydd yn denu talent newydd i yrfaoedd mewn busnes a gweinyddu, a bydd yn helpu i uwchsgilio'r gweithlu i gymryd lle'r rhai sy'n gadael neu'n ymddeol.

Bydd Prentisiaid Uwch yn gweithio mewn rolau megis rheolwyr swyddfa, arweinwyr tîm gweinyddol, cynorthwywyr personol neu swyddogion gweithredol datblygu busnes.

Gofynion mynediad

  • Nid oes angen cymwysterau ffurfiol, ond mae profiad mewn Gweinyddu Busnes yn ddymunol
  • Mae'n rhaid bod gan brentisiaid gyflogwr sy'n gallu ymdrin â meini prawf yr NVQ

Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.

Cyflwyniad

  • Mae rhan fwyaf o'r hyfforddiant yn cael ei ddarparu yn y gweithle
  • Bydd yn ofynnol i bob dysgwr fynychu sesiynau yn y coleg i gwblhau tasgau theori a phrofion

Asesiad

  • Cwblhau portffolio o dystiolaeth
  • Arsylwadau yn y gwaith
  • Tasgau a phrofion seiliedig ar theori

Dilyniant

Gallech symud ymlaen i ddilyn nifer o raglenni addysg uwch yng Ngrŵp Llandrillo Menai, gan gynnwys:

BA (Anrh) Rheoli a Busnes, ar gael yn:

  • Llandrillo-yn-Rhos

Graddau Sylfaen (FdA) Rheoli a Busnes ar gael yn:

  • Llandrillo-yn-Rhos

HND/HNC Astudiaethau Busnes, ar gael yn:

  • Bangor

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Prentisiethau

Lefel: 4+5

Dwyieithog:

n/a