Hwb i Hyder ar gyfer Cyfweliadau am Swyddi
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Busnes@LlandrilloMenai, Parc Busnes Llanelwy
- Dull astudio:Rhan amser
Hwb i Hyder ar gyfer Cyfweliadau am SwyddiCyrsiau Byr
Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.
Disgrifiad o'r Cwrs
Serennwch yn eich cyfweliad nesaf gyda hyder ac eglurder. Mae ein cwrs Sgiliau Cyfweliad am Swydd wedi'i gynllunio i roi'r sgiliau a'r technegau ymarferol sydd eu hangen arnoch i berfformio ar eich gorau - waeth beth fo lefel eich profiad na'ch gyrfa.
Pam dilyn y cwrs?
Gall cyfweliadau am swyddi fod yn frawychus, ond gyda'r paratoad cywir, gallwch fynd i'r cyfweliad gyda hyder. Mae'r cwrs hwn yn cynnig sgiliau hanfodol i'ch helpu i:
- Deall sut mae'r ymennydd yn ymateb i straen a sut i'w reoli
- Paratoi yn effeithiol ac yn hyderus ar gyfer unrhyw gyfweliad
- Meistroli'r dechneg STAR i strwythuro atebion cryf ac effeithiol
- Gwella iaith eich corff a'ch sgiliau cyfathrebu cyffredinol
- Dysgu technegau tawelu i reoli'ch nerfau cyn ac yn ystod cyfweliadau
I bwy mae’n addas?
Mae'r cwrs hwn yn addas i:
- Rai sydd wedi graddio'n ddiweddar ac yn ymuno â'r farchnad swyddi
- Rai sydd am newid gyrfa ac yn archwilio cyfleoedd newydd
- Gweithwyr proffesiynol sy'n awyddus i fireinio eu sgiliau cyfweliad
- Unrhyw un sydd eisiau mynd i gyfweliadau gyda mwy o hyder
Cymerwch y Cam Cyntaf Tuag at Lwyddo mewn Cyfweliad
P'un a ydych chi'n gwneud cais am eich swydd gyntaf neu'n anelu at ddyrchafiad, bydd y cwrs hwn yn rhoi'r fantais sydd ei hangen arnoch chi.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
N/A
Maes rhaglen:
- Business and Management
Business and Management
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
