AAT – Diploma Lefel 4 Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifydda (AAT) mewn Cyfrifyddu

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos, Busnes@LlandrilloMenai, Parc Menai
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    Rhan-amser 1 diwrnod yr wythnos. Medi - Tachwedd (y flwyddyn ganlynol).

Gwnewch gais
×

AAT – Diploma Lefel 4 Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifydda (AAT) mewn Cyfrifyddu

Proffesiynol

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae Diploma Lefel 4 AAT mewn Cyfrifyddu Proffesiynol yn ymdrin â phynciau a thasgau lefel uchel ym maes cyfrifyddu a chyllid. Bydd dysgwyr yn astudio ac yn dod yn hyderus gyda sgiliau a rhaglenni rheolaeth ariannol ac yn datblygu'r gallu i ddrafftio datganiadau ariannol ar gyfer cwmnïau cyfyngedig, yn argymell strategaethau systemau cyfrifyddu ac yn llunio a chyflwyno adroddiadau cymhleth ym maes rheolaeth cyfrifyddu. Bydd dysgwyr hefyd yn dysgu am feysydd arbenigol megis treth, archwilio, rheoli credyd a dyledion yn ogystal â rheoli arian parod a chyllid. Yn ogystal, cyflwynir themâu allweddol yn y gyfres o gymwysterau ym maes cyfrifyddu, yn cynnwys technoleg, moeseg, cynaliadwyedd a chyfathrebu.

Mae’r cymhwyster hwn yn cynnwys tair uned orfodol a dwy uned arbenigol ddewisir o blith pump opsiwn

Dyma'r unedau gorfodol:

  • Cyfrifyddu ym maes Rheoli (Cymhwysol)
  • Drafftio a Dehongli Datganiadau Ariannol
  • Systemau a Rheoliadau Cyfrifyddu Mewnol

Mae'r unedau dewisol yn cynnwys: (Nodwch y bydd eich dewis i'w drafod fel y bo'n briodol - mae'n bosib na fydd yr holl opsiynau ar gael)

  • Treth Fusnes
  • Treth Bersonol
  • Archwilio a Sicrwydd Busnes
  • Rheoli Cyllid ac Arian Parod
  • Rheoli Credyd a Dyledion

Gofynion mynediad

  • Wedi cyflawni Diploma Lefel 3 AAT mewn Cyfrifyddu yn ddiweddar
  • TGAU Mathemateg a Saesneg gradd C neu brofiad gwaith perthnasol
  • Yn ddelfrydol, dylech fod yn gweithio mewn swydd ym maes cyfrifyddu.
  • Mae gofyn i bob dysgwr gofrestru gyda'r corff proffesiynol i dechnegwyr cyfrifyddu.
  • Cynigir llefydd yn amodol ar gyfweliad boddhaol.

Cyflwyniad

Darlithoedd yn y dosbarth

Asesiad

Caiff yr unedau eu hasesu'n unigol drwy gyfrwng asesiadau diwedd uned ar gyfrifiadur.

Dilyniant

Unwaith fydd y dysgwyr wedi cymhwyso ac wedi bodloni meini prawf yr AAT, gallent wneud cais am aelodaeth lawn yr AAT, a fydd yn eu galluogi i ddefnyddio'r llythrennau MMAT ar ôl eu henw. Fodd bynnag, prif ganlyniad Diploma Lefel 4 mewn Cyfrifyddu Proffesiynol yw y gallai hyn arwain at ystod eang o swyddi llwyddiannus ym maes cyfrifyddu a chyllid, gan gynnwys:

  • Technegydd Cyfrifyddu Proffesiynol
  • Cynorthwyydd Archwilio
  • Cyfrifydd Cynorthwyol ym maes Rheoli
  • Dadansoddwr Masnachol
  • Rheolwr Rhestr Gyflogau
  • Uwch Swyddog Cadw Cyfrifon
  • Uwch Swyddog Ariannol
  • Cynorthwyydd Cyfrifon Taladwy a Threuliau
  • Cyfrifydd Ariannol Cynorthwyol
  • Cyfrifydd Costau
  • Cyfrifydd Asedau Sefydlog
  • Rheolwr Treth Anuniongyrchol
  • Rheolwr Taliadau a Biliau
  • Uwch Gyfrifydd Cronfa
  • Uwch Weinyddwr Ansolfedd
  • Goruchwylydd Treth
  • Cyfrifydd TAW.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Proffesiynol

Lefel: 4-6

Maes rhaglen:

  • Business and Management

Dwyieithog:

n/a

Business and Management

Myfyrwyr yn siarad mewn ystafell ddosbarth