AAT – Diploma Lefel 3 Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifydda (AAT) mewn Cyfrifyddu

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos, Busnes@LlandrilloMenai, Parc Menai
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    Rhan-amser, 1 diwrnod neu 2 gyda'r nos yr wythnos

Gwnewch gais
×

AAT – Diploma Lefel 3 Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifydda (AAT) mewn Cyfrifyddu

Proffesiynol

Disgrifiad o'r Cwrs

Pwrpas y cymhwyster hwn yw sicrhau bod dysgwyr yn barod i ddilyn gyrfa ym maes busnes, cyllid neu gyfrifyddu proffesiynol neu fynd ymlaen i addysg bellach.

Bydd dysgwyr yn dysgu ac yn datblygu sgiliau a fydd eu hangen arnynt wrth ymdrin â phrosesau ariannol, yn cynnwys egwyddorion a chysyniadau cyfrifyddu, cadw cyfrifon uwch a pharatoi datganiadau ariannol.

Byddant hefyd yn dod i ddeall yr amgylchedd busnes, y dechnoleg a ddefnyddir ym maes cyllid a chyfrifyddu, materion busnes o ran rhestrau cyflogau a threth ar werth (TAW) (mae'n bosib y defnyddir term gwahanol mewn gweledydd eraill), problemau ym maes busnes, technegau cyfrifyddu rheoli, egwyddorion moesegol ac ystyriaethau cynaliadwyedd.

Bydd dysgwyr yn meithrin dealltwriaeth am fyd busnes o ran ei strwythur a'i bwrpas yn ogystal â gwerthfawrogi'r amgylchedd busnes ehangach. Byddant hefyd yn datblygu sgiliau i gefnogi prosesau ariannol cymhleth, megis cyfrifon terfynol, adroddiadau ac adenillion, defnyddio technoleg i ddarparu gwybodaeth cyfrifyddu rheoli a llenwi ffurflenni TAW.

Disgwylir i'r dysgwyr fod yn gyfrifol am lunio a chwblhau tasgau a gweithdrefnau, yn ogystal â defnyddio eu hymreolaeth a'u barn o fewn ffiniau cyfyngedig, megis ymwybyddiaeth o safbwyntiau neu ddulliau gwahanol o fewn maes astudio neu waith penodol.

Bydd gofyn iddynt ddefnyddio amrywiaeth o ddata a gwybodaeth am fusnes i ystyried a rhannu gwybodaeth allweddol i allu gwneud penderfyniadau busnes. Yn ogystal, cyflwynir themâu allweddol drwy gydol y gyfres o gymwysterau ym maes cyfrifyddu, yn cynnwys technoleg, moeseg, cynaliadwyedd a chyfathrebu.

Caiff y pedair uned eu hasesu'n unigol drwy gyfrwng asesiadau diwedd uned ar gyfrifiadur.

Mae’r cymhwyster yn cynnwys pedair uned orfodol.

  • Ymwybyddiaeth o fusnes
  • Cyfrifyddu Ariannol : Paratoi Datganiadau Ariannol
  • Technegau Cyfrifyddu ym maes Rheoli
  • Prosesau Treth i Fusnesau

Gofynion mynediad

  • Wedi cyflawni Tystysgrif Lefel 2 AAT mewn Cyfrifyddu yn ddiweddar
  • TGAU Mathemateg a Saesneg gradd C neu brofiad gwaith perthnasol
  • Yn ddelfrydol, dylech fod yn gweithio mewn swydd ym maes cyfrifyddu.
  • Mae gofyn i bob dysgwr gofrestru gyda'r corff proffesiynol i dechnegwyr cyfrifyddu.
  • Cynigir llefydd yn amodol ar gyfweliad boddhaol.

Cyflwyniad

Darlithoedd yn y dosbarth

Asesiad

Caiff y pedair uned eu hasesu'n unigol drwy gyfrwng asesiadau diwedd uned ar gyfrifiadur.

Dilyniant

Bydd y sgiliau cyfrifyddu a ddatblygir wrth astudio'r cymhwyster hwn yn galluogi'r dysgwr i chwilio am waith yn hyderus a/neu fynd ymlaen i lefel nesaf eu haddysg. Bydd yn arwain at ddetholiad o yrfaoedd gwych yn ogystal â chyfle i fynd ymlaen i astudio Diploma Lefel 4 mewn Cyfrifyddu Proffesiynol a llwybr i addysg uwch.

Gallai'r sgiliau a ddatblygir drwy gyfrwng y cymhwyster hwn arwain at swyddi megis:

  • Cynorthwyydd Cyfrifon
  • Goruchwyliwr Cyfrifon Taladwy a Threuliau
  • Cyfrifydd Cynorthwyol Swyddog Archwilio dan Hyfforddiant
  • Rheolwr Credyd
  • Cynorthwyydd Cyllid
  • Swyddog Cyllid
  • Goruchwyliwr Rhestr Gyflogau
  • Uwch Swyddog Cadw Cyfrifon
  • Cynorthwyydd Treth

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Proffesiynol

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Business and Management

Dwyieithog:

n/a

Business and Management

Myfyrwyr yn siarad mewn ystafell ddosbarth