AAT – Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifydda: Tystysgrif Lefel 2 yr AAT mewn Cyfrifydda

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos, Busnes@LlandrilloMenai, Parc Menai
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    Rhan-amser, 1 diwrnod neu 2 gyda'r nos yr wythnos.

    Medi - Mehefin neu (Llwybr Carlam) Chwefror - Gorffennaf.

Gwnewch gais
×

AAT – Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifydda: Tystysgrif Lefel 2 yr AAT mewn Cyfrifydda

Proffesiynol

Disgrifiad o'r Cwrs

Bydd y sgiliau cyfrifyddu a busnes a ddatblygir wrth astudio'r cymhwyster hwn yn galluogi'r dysgwr i chwilio am waith yn hyderus a/neu fynd ymlaen i lefel nesaf eu haddysg.

Wrth astudio'r cymhwyster hwn datblygir sgiliau cofnodi dwbl wrth gadw cyfrifon a dealltwriaeth am ddefnyddio dyddlyfrau, cyfrifon rheoli a mantolenni prawf.

Bydd y dysgwyr hefyd yn dysgu am becynnau meddalwedd cyfrifyddu, sut i brosesu gwybodaeth ariannol yn unol â gweithdrefnau ac amserlenni cwmnïau a sut i rannu gwybodaeth â chydweithwyr, cyflenwyr a/neu gwsmeriaid yn ôl yr angen.

Mae’r cymhwyster hwn yn cynnwys pedair uned orfodol.

  • Cyflwyniad i Gadw Cyfrifon
  • Egwyddorion Rheolau Cadw Cyfrifon
  • Egwyddorion Costau
  • Yr Amgylchedd Busnes

Ynghyd ag Asesiad Synoptig ar ddiwedd y flwyddyn.

Gofynion mynediad

  • TGAU Mathemateg a Saesneg gradd C neu brofiad gwaith perthnasol
  • Yn ddelfrydol, dylech fod yn gweithio mewn swydd ym maes cyfrifyddu.
  • Mae gofyn i bob dysgwr gofrestru gyda'r corff proffesiynol i dechnegwyr cyfrifyddu.
  • Cynigir llefydd yn amodol ar gyfweliad boddhaol.

Cyflwyniad

  • Darlithoedd yn y dosbarth
  • Darlithoedd byw ar-lein

Asesiad

  • Asesiadau allanol ar gyfrifiadur drwy gydol y cwrs

Dilyniant

Gall cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus arwain at nifer o ddewisiadau o ran addysg a gwaith, gan gynnwys:

  • Diploma Lefel 3 Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifydda (AAT) mewn Cyfrifydda.

Gallai'r sgiliau a ddatblygir drwy gyfrwng y cymhwyster hwn arwain at swyddi megis:

  • Gweinyddwr Cyfrifon
  • Cynorthwyydd Cyfrifon
  • Clerc Cyfrifon i’w Talu
  • Clerc Llyfr Gwerthiant / Prynu
  • Technegydd Cyfrifyddu dan Hyfforddiant
  • Cynorthwyydd Cyllid dan Hyfforddiant.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Proffesiynol

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • Business and Management

Dwyieithog:

n/a

Business and Management

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Business and Management

Myfyrwyr yn siarad mewn ystafell ddosbarth