Prentisiaeth - Gwasanaethau Ewinedd Lefel 2

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llangefni, Dysgu seiliedig ar waith
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    78 wythnos (18 mis)


Gwnewch gais
×

Prentisiaeth - Gwasanaethau Ewinedd Lefel 2

Prentisiethau

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Bydd dysgwyr sy'n cwblhau Prentisiaeth yn cael y cyfle i gyflawni rôl technegydd ewinedd. ⁠ Gall eu gyrfaoedd fynd a nhw i amrywiaeth o leoliadau y tu hwnt i salonau ewinedd arbenigol, gan gynnwys cartrefi gofal, salonau harddwch, bariau ewinedd, sba a chlybiau iechyd, yn y wlad hon a thramor. Mae'r fframwaith prentisiaeth hwn, y cytunwyd arno'n genedlaethol, yn darparu llwybr seiliedig ar waith i gyflogaeth yn y diwydiant Gwasanaethau Ewinedd drwy ddefnyddio cymwysterau sy'n cyfuno sgiliau a gwybodaeth.

Mae'r llwybr hwn yn datblygu sgiliau i lefel sylfaen a chyflogaeth fel Technegydd Ewinedd.

Gofynion mynediad

  • Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol.
  • Rhaid i brentisiaid fod â chyflogwyr a all fodloni meini prawf yr NVQ ⁠neu gallwn ni eich helpu i ddod o hyd i gyflogwr
  • Rhaid i chi fod yn frwdfrydig, yn ymroddedig ac yn barod i ddysgu
  • Bydd yn ofynnol i chi ddod i gyfweliad

Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.

Cyflwyniad

Cyflwynir y rhan fwyaf o'r cwrs yn y gweithle. ⁠ ⁠ ⁠ Fodd bynnag, bydd Dysgwyr Seiliedig ar Waith yn elwa ar gyfuniad o:

  • Wersi theori
  • Gweithdai ymarferol
  • Sesiynau masnachol
  • Arddangosiadau

Nid yw dysgwyr cyrsiau gwasanaethau ewinedd yn mynychu'r coleg ar gyfer gweithdai ymarferol nac ar gyfer y theori. ⁠Bydd angen i'r salon ddarparu'r holl hyfforddiant technegol. Bydd cyfleoedd i ymgymryd â hyfforddiant yn salon y coleg yn ogystal â dod â chleientiaid i mewn pan fo angen. Bydd Asesydd yn gyfrifol am yr holl asesiadau a sesiynau theori sy'n digwydd yn y gweithle.

Os oes angen, bydd rhaid i chi fynychu sesiynau Cymwysterau Sgiliau Hanfodol ar safle coleg sy'n gyfleus i chi.

Asesiad

Ar y cwrs, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Cwblhau Portffolio Electronig o asesiadau ymarferol ar gyfer aseiniadau a thasgau pob uned
  • Profion amlddewis ar y wybodaeth greiddiol (Arholiadau Ar-lein) Tasgau a phrofion seiliedig ar theori
  • Arsylwadau ac Asesiadau Seiliedig ar Waith
  • Bydd eich ymddygiad yn cael ei asesu hefyd, o ran aeddfedrwydd, datblygiad, rhyngweithio a chyfathrebu

Dilyniant

  • I raglen brentisiaeth Lefel 3 mewn Gwasanaethau Ewinedd.
  • I mewn i gyflogaeth fel technegydd ewinedd iau
  • Bydd dilyniant yn seiliedig ar fodloni gofynion cwsmeriaid ar gyfer y lefel uwch.
  • Mae'n bosibl symud ymlaen i gyrsiau perthnasol eraill fel Therapi Harddwch neu Drin Gwallt.

Gwybodaeth campws Dysgu seiliedig ar waith

A practical course aimed at those who would like to pursue a career in Nail Services, this pathway develops skills to foundation level and employment as a Junior Nail Technician, carrying out treatments including manicures, pedicures, nail art services and nail enhancements using acrylic. Additional short courses are available as add-ons to this apprenticeship.

Unit Information

Nail Services

To achieve this qualification candidates must complete 8 mandatory units totaling 40 credits.

MANDATORY UNITS

  • Fulfil salon reception duties = 3 credits (2 competence 1 knowledge)
  • Develop and maintain your effectiveness at work = 3 credits (2 competence 1 knowledge)
  • Promote additional services or products to clients = 6 credits (2 competence 4 knowledge)
  • Ensure responsibility for actions to reduce risks to health and safety = 4 credits (1 competence 3 knowledge)
  • Provide manicure services = 6 credits (3 competence 3 knowledge)
  • Provide pedicure services = 6 credits (3 competence 3 knowledge)
  • Carry out nail art services = 4 credits (3 competence 1 knowledge)
  • Apply and maintain nail enhancements to create a natural finish = 8 credits (6 competence 2 knowledge)

Additional Essential Skills units: (A proxy can be applied if we have proof of prior achievement)

  • Communications Level 1
  • Application of Number Level 1
  • Digital Literacy Level 1

Employment Rights & Responsibilities (ERR)

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Prentisiethau

Lefel: 2

Dwyieithog:

Darpariaeth ddwyieithog ar gael