Prentisiaeth - Trin Gwallt Lefel 2

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llangefni, Llandrillo-yn-Rhos, Dysgu seiliedig ar waith
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    Rhan-amser: 78 wythnos⁠ (18 mis)

Gwnewch gais
×

Prentisiaeth - Trin Gwallt Lefel 2

Prentisiethau

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Ydych chi’n steilydd, neu a ydych chi'n awyddus i gael gyrfa ym maes trin gwallt? Hoffech chi wella'ch gwybodaeth a'ch sgiliau technegol? Mae'r cwrs prentisiaeth hwn yn eich galluogi i ennill cymhwyster Lefel 2 gwerthfawr a gweithio ar yr un pryd. Mae'r cwrs yn ychwanegu ar eich dealltwriaeth ac mi fydd yn eich cynorthwyo i ragori fel steilydd.

Byddwch yn astudio pob agwedd ar steilio gwallt Merched ac mi fyddwch yn derbyn hyfforddiant o'r safon uchaf ar dorri, pyrmio, technegau lliwio, chwythsychu, rhoi gwallt i fyny a gosod gwallt yn ogystal â thriniaethau i wallt/croen y pen. Yn ogystal â hyn byddwch yn dysgu gwybodaeth a sgiliau yn ymwneud â gweithio mewn derbynfa, am iechyd a diogelwch a manwerthu.

Gofynion mynediad

  • Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol ond mae profiad ym maes Gwallt a Harddwch yn ddymunol neu NVQ Lefel 1 wedi'i gwblhau'n llwyddiannus.
  • Y⁠ ⁠Rhaid bod eich cyflogwr yn gallu trafod meini prawf yr NVQ neu gallwn eich cynorthwyo i ddod o hyd i gyflogwr.
  • Rhaid i chi fod yn frwdfrydig, yn ymroddedig ac yn barod i ddysgu
  • Rhaid i chi fod yn berson gofalgar a digynnwrf ⁠ ⁠ ⁠ ⁠
  • Bydd yn ofynnol i chi ddod i gyfweliad

Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.

Cyflwyniad

Bydd y rhan fwyaf o'r cwrs yn cael ei gyflwyno yn y gweithle. ⁠ ⁠ ⁠ Fodd bynnag, bydd Dysgwyr Seiliedig ar Waith yn elwa ar gyfuniad o:

  • Wersi theori
  • Gweithdai ymarferol
  • Salonau go iawn yn y coleg
  • Sesiynau masnachol
  • Arddangosiadau
  • Ymarferion chwarae rôl
  • Gwaith grŵp

Nid yw'n hanfodol bod dysgwyr yn mynychu sesiynau yn y coleg i gwblhau tasgau a phrofion theori. Mae'n bosibl cwblhau'r cymhwyster wrth ddysgu o bell. Os oes angen, bydd rhaid i chi fynychu sesiynau Cymwysterau Sgiliau Hanfodol ar safle coleg sy'n gyfleus i chi.

Asesiad

Ar y cwrs, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Cwblhau Portffolio Electronig o asesiadau ymarferol ar gyfer aseiniadau a thasgau pob uned ⁠
  • Profion amlddewis ar y wybodaeth greiddiol (Arholiadau Ar-lein) Tasgau a phrofion seiliedig ar theori
  • Arsylwadau ac Asesiadau Seiliedig ar Waith
  • Bydd eich ymddygiad yn cael ei asesu hefyd, o ran aeddfedrwydd, datblygiad, rhyngweithio a chyfathrebu

Dilyniant

Mae'r cwrs yn rhoi cymhwyster gwerthfawr i chi ac yn codi eich sgiliau trin gwallt i lefel uwch. Bydd modd i chi ragori yn y maes a datblygu o swydd ar lefel is, i rôl steilydd llawn.

Bydd y cwrs hefyd yn eich paratoi i astudio ar lefel uwch. Gallech barhau i astudio'n rhan-amser a symud ymlaen i'r cwrs prentisiaeth NVQ Lefel 3 mewn Trin Gwallt ⁠sydd hefyd yn cael ei gynnig yng Ngrŵp Llandrillo Menai.

Bydd dilyniant yn seiliedig ar fodloni gofynion cwsmeriaid ar gyfer y lefel uwch. Mae'n bosibl symud ymlaen i Lwybrau Dilyniant ym maes Barbro a Therapi Harddwch.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Prentisiethau

Lefel: 2

Dwyieithog:

Darpariaeth ddwyieithog ar gael