Prentisiaeth - Arwan Tîm yn y Diwydiant Bwyd
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Dysgu seiliedig ar waith
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
18 Mis
Prentisiaeth - Arwan Tîm yn y Diwydiant BwydPrentisiethau
I gael gwybodaeth bellach neu i wneud cais am brentisiaeth, cliciwch y botwm isod a chwblhau'r ffurflen.
Ffurflen ymholi am brentisiaethDisgrifiad o'r Cwrs
Cymhwyster sy'n seiliedig ar wybodaeth yw hwn ac fe'i bwriadwyd ar gyfer dysgwyr sy'n gweithio mewn busnes bwyd neu yn y gadwyn gyflenwi bwyd. Mae'n cynnig cyfle i ddysgwyr ddatblygu'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i ddangos cymhwysedd yn y gwaith mewn rolau arweinyddiaeth tîm. Mae'r cymhwyster yn rhoi cyfuniad unigryw o gymwyseddau rheoli tîm i fusnesau bwyd a busnesau cadwyn gyflenwi, mewn cyd-destun busnes bwyd. Fe'i cynlluniwyd i reoli a gwella perfformiad tîm, sicrhau ansawdd a defnyddio systemau busnes mewn amgylchedd busnes bwyd neu gadwyn gyflenwi.
Mae angen i ddysgwyr fod yn 16 oed neu'n hŷn i wneud y cymhwyster hwn. Nid oes angen unrhyw gymwysterau nac unedau blaenorol na phrofiad sgiliau bwyd.
Mae'r cymhwyster yn asesu ac yn cydnabod cyflawniad cymwys yn y gweithle a bydd yn cefnogi dilyniant i ddysgu pellach mewn meysydd amrywiol, gan gynnwys;
• prosesu bwyd
• gwyddor a thechnoleg bwyd
• hylendid bwyd, diogelwch bwyd a rheoli ansawdd bwyd
Gofynion mynediad
- Rhaid bod mewn swydd addas ac yn cael eu cyflogi am o leiaf 16 awr yr wythnos.
- Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol ond mae profiad yn y diwydiant bwyd a diod yn ddymunol.
- Rhaid i bob prentis fod â chyflogwr a all fodloni meini prawf yr NVQ.
Cyflwyniad
Ymweliadau gan aseswyr yn y gweithle.
Asesiad
Bydd gofyn i'r dysgwr gyflwyno portffolio electronig o dystiolaeth a chael arsylwadau yn y gwaith yn ogystal â gwneud tasgau a phrofion seiliedig ar theori.
Dilyniant
Gall y cymhwyster hwn gefnogi cyflogaeth mewn rolau lefel technegydd neu oruchwyliwr gan gynnwys;
- technegydd prosesu a gweithgynhyrchu bwyd
- arweinydd tîm gwerthu a gwasanaethau bwyd
- technegydd diogelwch bwyd/sicrhau ansawdd
- arweinydd/goruchwyliwr tîm bwyd a diod
- arweinydd tîm gweithrediadau
- arweinydd tîm shifft
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Prentisiethau
Lefel:
2
Maes rhaglen:
- Cynhyrchu Bwyd
Dwyieithog:
Darpariaeth ddwyieithog ar gael