Prentisiaeth - Cigyddiaeth
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Dysgu seiliedig ar waith
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
18 Mis
Prentisiaeth - CigyddiaethPrentisiethau
I gael gwybodaeth bellach neu i wneud cais am brentisiaeth, cliciwch y botwm isod a chwblhau'r ffurflen.
Ffurflen ymholi am brentisiaethDisgrifiad o'r Cwrs
Mae'r cymhwyster hwn wedi'i gynllunio i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth gweithwyr yn y sector cigyddiaeth a phrosesu cig. Mae'r cymhwyster yn cynnwys ystod eang o unedau sy'n rhoi cyfle i ddysgwyr ddangos cymhwysedd galwedigaethol mewn amrywiaeth o rolau yn y sector gan gynnwys:
- Gweithiwr gwalfa/lladd-dy
- Gweithiwr prosesu cig a dofednod
- Gweithiwr cigyddiaeth
- Gweithiwr pecynnu a dosbarthu cig a dofednod
- Gweithiwr gwasanaethau/gwerthu cig a dofednod
- Gweithiwr sicrhau ansawdd cig
Mae'r cymhwyster yn cynnwys sgiliau a gwybodaeth orfodol sy'n gysylltiedig ag arferion gweithredu diogel a chynnal diogelwch bwyd. Bydd dysgwyr yn dewis unedau dewisol i gyd-fynd â'u swydd a'u hanghenion dysgu a datblygu. Mae'r rhain yn cynnwys meysydd fel sgiliau cigyddiaeth, gweithredu ffatri prosesu cig neu ddofednod, sgiliau tynnu esgyrn, ffiledu a thocio cig, cynhyrchu cynhyrchion sy'n seiliedig ar gig, lapio a phecynnu, gweithrediadau manwerthu a chynnal ansawdd.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus hefyd yn ennill y Dyfarniad mewn Sgiliau Cyllell a chymhwyster Diogelwch Bwyd HACCP.
Gofynion mynediad
- Rhaid bod mewn swydd addas ac yn cael eu cyflogi am o leiaf 16 awr yr wythnos.
- Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol ond mae profiad yn y diwydiant cigyddiaeth yn ddymunol.
- Rhaid i bob prentis fod â chyflogwr a all fodloni meini prawf yr NVQ.
Cyflwyniad
Ymweliadau gan aseswyr yn y gweithle.
Asesiad
Bydd gofyn i'r dysgwr gyflwyno portffolio electronig o dystiolaeth a chael arsylwadau yn y gwaith yn ogystal â gwneud tasgau a phrofion seiliedig ar theori.
Dilyniant
Gall y cymhwyster hwn gefnogi cyflogaeth mewn rolau lefel technegydd neu oruchwyliwr gan gynnwys;
- Goruchwyliwr/rheolwr lladd-dy
- Goruchwyliwr/rheolwr gwalfa
- Goruchwyliwr/rheolwr prosesu cig a dofednod
- Goruchwyliwr/rheolwr cigyddiaeth
- Technegydd/rheolwr pecynnu a dosbarthu cig a dofednod
- Rheolwr gwasanaethau/gwerthu cig a dofednod
- Technegydd/rheolwr sicrhau ansawdd cig
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Prentisiethau
Lefel:
2
Maes rhaglen:
- Cynhyrchu Bwyd
Dwyieithog:
Darpariaeth ddwyieithog ar gael