Prentisiaeth - Gwaith Barbwr Lefel 3

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Dysgu seiliedig ar waith
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    78 wythnos⁠ (18 mis)

Gwnewch gais
×

Prentisiaeth - Gwaith Barbwr Lefel 3

Prentisiethau

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r fframwaith prentisiaeth hwn yn darparu llwybr seiliedig ar waith i gyflogaeth yn y diwydiant gwaith barbwr drwy ddefnyddio cymwysterau sy'n cyfuno sgiliau a gwybodaeth.

Bydd y Diploma NVQ Lefel 3 mewn Gwaith Barbwr yn galluogi barbwyr newydd i ddatblygu eu sgiliau creadigol.

Gofynion mynediad

  • Rhaid i chi feddu ar gymhwyster cyfwerth â NVQ Lefel 2 mewn Gwaith Barbwr neu Drin Gwallt neu brofiad diwydiannol perthnasol
  • ⁠Mae'n rhaid bod gennych gyflogwr sy'n gallu bodloni meini prawf yr NVQ neu gallwn eich cefnogi i ddod o hyd i gyflogwr⁠ ⁠
  • Rhaid i chi fod yn frwdfrydig, yn ymroddedig ac yn barod i ddysgu
  • Rhaid i chi fod yn berson gofalgar a digynnwrf ⁠ ⁠
  • Bydd yn ofynnol i chi ddod i gyfweliad

Cynigir llefydd yn amodol ar gyfweliad boddhaol a bodloni gofynion cwsmeriaid

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs yn y gweithle. ⁠ Fodd bynnag, bydd Dysgwyr Seiliedig ar Waith yn cael cyfleoedd i fynychu coleg ar gyfer: ⁠⁠

  • Uwchsgilio gwersi ymarferol a gwersi theori
  • Sesiynau masnachol
  • Arddangosiadau

Os oes angen, bydd rhaid i chi fynychu sesiynau Cymwysterau Sgiliau Hanfodol ar safle coleg sy'n gyfleus i chi.

Asesiad

Ar y cwrs, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Cwblhau Portffolio Electronig o asesiadau ymarferol ar gyfer aseiniadau a thasgau pob uned ⁠
  • Profion amlddewis ar y wybodaeth greiddiol (Arholiadau Ar-lein) Tasgau a phrofion seiliedig ar theori
  • Arsylwadau ac Asesiadau Seiliedig ar Waith
  • Bydd eich ymddygiad yn cael ei asesu hefyd, o ran aeddfedrwydd, datblygiad, rhyngweithio a chyfathrebu

Dilyniant

Mae'r NVQ Lefel 3 yn rhoi cymhwyster gwerthfawr i chi a bydd yn eich helpu i symud ymlaen i'r cyfeiriad cywir tuag at yrfa heriol. Byddwch yn gallu ymgeisio am gyfrifoldebau ychwanegol yn eich gweithle, ac efallai y byddwch yn gallu gweithio mewn rôl oruchwylio neu reoli.

Bydd y cwrs hefyd yn eich paratoi i astudio ar lefel uwch. Gallech barhau i astudio a symud ymlaen i addysg uwch yn y maes rheoli salon. ⁠

Mae'n bosibl symud ymlaen i gyrsiau Trin Gwallt eraill hefyd. ⁠

Gwybodaeth campws Dysgu seiliedig ar waith

Candidates must complete all 4 mandatory units totaling 40 credits and optional units toa minimum of 26 credits to give an overall total of 66 credits to achieve the full qualification.

MANDATORY UNITS

  • Provide client consultation services - 8 credits (3 Competence 5 Knowledge)
  • Provide shaving services - 11 credits (5 Competence 6 Knowledge)
  • Design and create a range of facial hair shapes - 7 credits (3 Competence 4 Knowledge)
  • Creatively cut hair using a combination of barbering techniques - 14 credits (8 Competence 6 Knowledge)

OPTIONAL UNITS

  • Provide a variety of relaxing services - 9 credits (5 Competence 4 Knowledge)
  • Design and create patterns in hair - 12 credits (6 Competence 6 Knowledge)
  • Hair colour correction services 15 credits (7 Competence 8 Knowledge)
  • Develop, enhance and evaluate your creative hairdressing skills - 9 credits (4 Competence 5 Knowledge)
  • Provide specialist hair and scalp treatments - 12 credits (4 Competence 8 Knowledge)
  • Perm and neutralise hair - 10 credits (5 Competence 5 Knowledge)
  • Colour and lighten men's hair - 14 credits (6 Competence 8 Knowledge)
  • Contribute to the planning and implementation of promotional activities - 10 credits (3 Competence 7 Knowledge)
  • Contribute to the financial effectiveness of the business - 7 credits (4 Competence 3 Knowledge)
  • Fulfill salon reception duties - 6 credits (4 Competence 2 Knowledge)

Additional Essential Skills units: (A proxy can be applied if we have proof of prior achievement)

  • Communications Level 2
  • Application of Number Level 2
  • Digital Literacy Level 1

Employment Rights & Responsibilities (ERR)

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Prentisiethau

Lefel: 3

Dwyieithog:

Darpariaeth ddwyieithog ar gael