Prentisiaeth - Gwaith Barbwr Lefel 2

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llangefni, Llandrillo-yn-Rhos, Dysgu seiliedig ar waith
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    78 wythnos⁠ (18 mis)

Gwnewch gais
×

Prentisiaeth - Gwaith Barbwr Lefel 2

Prentisiethau

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r fframwaith prentisiaeth hwn yn darparu llwybr seiliedig ar waith i gyflogaeth yn y diwydiant gwaith barbwr drwy ddefnyddio cymwysterau sy'n cyfuno sgiliau a gwybodaeth.

Mae gwaith barbwr yn unigryw yn y sector gwallt a harddwch, gan ei fod yn cyfuno sgiliau traddodiadol fel torri gwallt dynion gyda thechnegau arbenigol newydd fel pylu croen, creu llinellau a phatrymau, lliwio a phyrmio.

Gofynion mynediad

  • Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol
  • Rhaid i chi gael cyflogwr a all fodloni meini prawf yr NVQ neu gallwn ni eich helpu i ddod o hyd i gyflogwr ⁠ ⁠
  • Rhaid i chi fod yn frwdfrydig, yn ymroddedig ac yn barod i ddysgu
  • Rhaid i chi fod yn berson gofalgar a digynnwrf ⁠ ⁠
  • Bydd yn ofynnol i chi ddod i gyfweliad

Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.

Cyflwyniad

Darperir y rhan fwyaf o'r cwrs yn y gweithle. ⁠ ⁠ ⁠ Fodd bynnag, bydd Dysgwyr Seiliedig ar Waith yn elwa ar gyfuniad o:

  • Gwersi theori
  • Gweithdai ymarferol
  • Salonau go iawn yn y coleg
  • Sesiynau masnachol
  • Arddangosiadau
  • Ymarferion chwarae rôl
  • Gwaith grŵp

Nid yw'n hanfodol bod dysgwyr yn mynychu sesiynau yn y coleg i gwblhau tasgau a phrofion theori. Mae'n bosibl cwblhau'r cymhwyster wrth ddysgu o bell. Os oes angen, bydd rhaid i chi fynychu sesiynau Cymwysterau Sgiliau Hanfodol ar safle coleg sy'n gyfleus i chi.

Asesiad

Ar y cwrs, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Portffolio electronig o asesiadau ymarferol ar gyfer aseiniadau a thasgau pob uned⁠
  • Profion amlddewis ar y wybodaeth greiddiol (Arholiadau Ar-lein) Tasgau a phrofion seiliedig ar theori
  • Arsylwadau ac Asesiadau Seiliedig ar Waith
  • Bydd eich ymddygiad yn cael ei asesu hefyd, o ran aeddfedrwydd, datblygiad, rhyngweithio a chyfathrebu

Dilyniant

Mae'r cwrs yn rhoi cymhwyster gwerthfawr i chi ac yn codi eich sgiliau gwaith barbwr i lefel uwch. ⁠ ⁠

Bydd y cwrs hefyd yn eich paratoi i astudio ar lefel uwch. Gallech barhau i astudio'n rhan-amser a symud ymlaen i'r cwrs prentisiaeth NVQ Lefel 3 mewn Gwaith Barbwr ⁠sydd hefyd yn cael ei gynnig yng Ngrŵp Llandrillo Menai. ⁠ ⁠

Bydd dilyniant yn seiliedig ar fodloni gofynion cwsmeriaid ar gyfer y lefel uwch. Mae'n bosibl symud ymlaen i gyrsiau Trin Gwallt eraill hefyd. ⁠ ⁠ ⁠

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Prentisiethau

Lefel: 2

Dwyieithog:

Darpariaeth ddwyieithog ar gael