Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Dysgu seiliedig ar waith
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    18 Mis

Gwnewch gais
×

Prentisiaeth - Pobi

Prentisiethau

I gael gwybodaeth bellach neu i wneud cais am brentisiaeth, cliciwch y botwm isod a chwblhau'r ffurflen.

Ffurflen ymholi am brentisiaeth

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r cymhwyster hwn wedi'i gynllunio i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth gweithwyr yn y sector becws. Mae'r cymhwyster yn cynnwys ystod eang o unedau sy'n rhoi cyfle i ddysgwyr ddangos cymhwysedd galwedigaethol mewn amrywiaeth o rolau yn y sector gan gynnwys:

  • Gweithiwr becws
  • Gweithiwr pecynnu a dosbarthu nwyddau becws
  • Gweithiwr gwasanaethau/gwerthu nwyddau becws
  • Gweithiwr sicrhau ansawdd cynhyrchion becws

Mae'r cymhwyster yn cynnwys sgiliau a gwybodaeth orfodol sy'n gysylltiedig ag arferion gweithredu diogel, cynnal diogelwch bwyd ac egwyddorion systemau diogelwch bwyd sy'n seiliedig ar HACCP. Bydd dysgwyr yn dewis unedau dewisol i gyd-fynd â'u swydd a'u hanghenion dysgu a datblygu. Mae'r rhain yn cynnwys meysydd fel dewis, pwyso a mesur cynhwysion, pobi cynhyrchion toes mewn popty, sleisio a bagio, lapio a phecynnu, gweithrediadau manwerthu a chynnal ansawdd.

Gofynion mynediad

  • Rhaid bod mewn swydd addas ac yn cael eu cyflogi am o leiaf 16 awr yr wythnos.
  • Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol ond mae profiad yn y diwydiant pobi yn ddymunol.
  • Rhaid i bob prentis fod â chyflogwr a all fodloni meini prawf yr NVQ.

Cyflwyniad

Ymweliadau gan aseswyr yn y gweithle.

Asesiad

Bydd gofyn i'r dysgwr gyflwyno portffolio electronig o dystiolaeth a chael arsylwadau yn y gwaith yn ogystal â gwneud tasgau a phrofion seiliedig ar theori.

Dilyniant

Gall y cymhwyster hwn gefnogi cyflogaeth mewn rolau lefel technegydd neu oruchwyliwr gan gynnwys;

  • Rheolwr/technegydd becws
  • Rheolwr/technegydd paratoi bwyd
  • Rheolwr/technegydd/pecynnu a dosbarthu bwyd
  • Rheolwr gwasanaethau/gwerthu bwyd
  • Rheolwr/technegyddsicrhau ansawdd cynhyrchu bwyd

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Prentisiethau

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • Cynhyrchu Bwyd

Dwyieithog:

Darpariaeth ddwyieithog ar gael