Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Glynllifon
  • Dull astudio:
    Llawn amser
  • Hyd:

    1 flwyddyn

Gwnewch gais
×

Amaethyddiaeth Lefel 2

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Glynllifon

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Hoffech chi gael gyrfa mewn amaethyddiaeth? A fyddai cwrs Lefel 2 ymarferol a galwedigaethol o fudd i chi?

Bwriedir y cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr sydd â pheth gwybodaeth o ddiwydiannau'r tir ac sydd am ddysgu rhagor am amaethyddiaeth. Bydd y cwrs yn eich paratoi ar gyfer dechrau gyrfa neu ar gyfer dilyn cwrs galwedigaethol uwch.

Mae'r cwrs yn addas ar gyfer myfyrwyr sydd wedi cwblhau Diploma Lefel 1 mewn Astudiaethau Diwydiannau'r Tir, neu gwrs Lefel 1 Seiliedig ar Waith. Mae hefyd yn ddelfrydol os ydych wedi gwneud eich TGAU neu os ydych yn oedolyn sydd am feithrin sgiliau amaethyddol. Canolbwyntir ar waith a phrofiad ymarferol a byddwch hefyd yn mynychu gwersi er mwyn datblygu'ch gwybodaeth greiddiol. Cewch fanteisio ar y cyfleusterau ardderchog a geir ar ein campws yng Nglynllifon ac ar arbenigedd ein staff.

Gofynion mynediad

I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:

  • 3 TGAU gradd D neu uwch ac 1 TGAU gradd E, yn cynnwys Mathemateg a Saesneg neu Gymraeg (iaith 1af), neu
  • gymhwyster Mynediad 3 / Lefel 1 Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Rhifedd a Chyfathrebu neu
  • Gradd Teilyngdod mewn cymhwyster Lefel 1 perthnasol
  • Profiad perthnasol mewn diwydiant

Bydd angen hefyd i chi fod wedi cael presenoldeb o 86% yn eich blwyddyn astudio flaenorol.

Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs fel a ganlyn:

  • Drwy gyfrwng sesiynau ymarferol, gyda rhywfaint o wersi yn y dosbarth i feithrin dealltwriaeth
  • Yn ddwyieithog, gyda deunyddiau dysgu ar gael yn y Gymraeg ac yn y Saesneg
  • Mae safle Glynllifon yn cynnwys 750 acer o dir amaethyddol a choetiroedd
  • Byddwch yn gweithio gyda'r anifeiliaid, yr offer a'r adnoddau amaethyddol arbenigol a geir ar y fferm, gan feithrin sgiliau a gwybodaeth mewn sefyllfa realistig.

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU
Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

Caiff y cwrs ei asesu drwy gyfrwng:

  • Asesiadau ymarferol yn y rhan fwyaf o'r unedau
  • Aseiniadau ysgrifenedig i ddangos eich dealltwriaeth

Dilyniant

Os byddwch yn cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, bydd sawl dewis ar gael i chi. Gallwch fynd ymlaen i ddilyn nifer o raglenni Lefel 3, yn cynnwys:

  • Amaethyddiaeth Lefel 3
  • Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 mewn Amaethyddiaeth neu Brentisiaeth Lefel 3 mewn Amaethyddiaeth

Byddwch hefyd wedi ehangu'ch dewisiadau o ran swyddi.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 2

Dwyieithog:

Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:

  • Glynllifon