Prentisiaeth - Amaethyddiaeth Lefel 2 a 3

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Glynllifon, Dysgu seiliedig ar waith
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:
    • Lefel 2: 18 mis
    • Lefel 3: 24 mis
Gwnewch gais
×

Prentisiaeth - Amaethyddiaeth Lefel 2 a 3

Prentisiethau

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Os ydych chi'n frwd am ffermio ac eisiau gweithio ym maes amaethyddiaeth, mae prentisiaeth yn ffordd ddelfrydol o ddysgu wrth weithio ac ennill cyflog a gweithio tuag at gael cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol.

Mae prentisiaethau mewn amaethyddiaeth yn cynnwys gweithio i gyflogwr a meithrin sgiliau a gwybodaeth ymarferol wrth ennill cyflog a chael cymhwyster. Gallwch hyd yn oed gwblhau'r brentisiaeth gartref ar fferm y teulu. Cyflwynir y prentisiaethau ar Lefel 2 a Lefel 3 ac maent yn seiliedig ar y math o fferm rydych yn gweithio ynddi:

  • Ffermio cig eidion
  • Ffermio defaid
  • Ffermio llaeth

Darperir y rhan fwyaf o'r hyfforddiant yn y gweithle, ond efallai y bydd y coleg yn gofyn i ddysgwyr ddod i sesiynau yn y coleg i gwblhau tasgau a phrofion theori.

Bydd y pynciau y byddwch yn eu hastudio yn dibynnu ar y math o waith rydych chi'n ei wneud, a gallant gynnwys:

  • Monitro a chynnal lles anifeiliaid
  • Cludo da byw
  • Bwydo da byw
  • Gofalu am anifeiliaid yn ystod genedigaeth ac wedyn
  • Rheoli cnydau pori
  • Rhoi triniaethau sylfaenol i dda byw
  • Godro
  • Monitro a gofalu am dda byw yn yr awyr agored

Gofynion mynediad

  • Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol ond mae profiad o amaethyddiaeth yn ddymunol.
  • Rhaid i bob prentis fod â chyflogwr sy'n gallu ymdrin â'r meini prawf NVQ.

Cyflwyniad

  • Darperir y rhan fwyaf o'r hyfforddiant yn y gweithle
  • Bydd gofyn i bob dysgwr fynychu sesiynau yn y coleg i gwblhau'r tasgau a phrofion theori

Asesiad

  • Cwblhau portffolio o dystiolaeth
  • Arsylwadau yn y gweithle
  • Tasgau a phrofion yn seiliedig ar theori

Dilyniant

O Brentisiaeth Sylfaen Lefel 2 i Brentisiaeth Lefel 3

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Prentisiethau

Lefel: 2+3

Dwyieithog:

Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:

  • Glynllifon