Agored Cymru - Sgiliau Cadw Cyfrifon A Chyfrifydda Lefel 2

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Abergele
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    32 wythnos, 3 awr yr wythnos

Cofrestrwch
×

Agored Cymru - Sgiliau Cadw Cyfrifon A Chyfrifydda Lefel 2

Rhan amser

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Anelwyd y cwrs hwn at rai sydd â diddordeb mewn astudio'r sgiliau ymarferol o gadw cyfrifon a chyfrifyddu ac sydd yn dymuno gwneud cais ar gyfer y swyddogaethau gwaith hyn. Bydd hefyd yn addas i rai sydd eisoes yn gweithio yn y swyddogaethau hyn ac sydd eisiau ennill mwy o brofiad ymarferol gydag ardystiad.

Cynhelir y cyrsiau yn ystod oriau sy'n gweddu i rai sy'n gofalu am blant, a dysgir cynnwys y cwrs mewn awyrgylch cyfeillgar, anffurfiol.

Os oes gennych yr hawl i gonsesiwn, ffoniwch Goleg Abergele ar 01745 828 100 i drefnu taliad.

Gofynion mynediad

Nid oes gofynion mynediad ffurfiol, ond dylai unigolion:

  • deall y termau cyffredinol a ddefnyddir ym maes cadw cyfrifon
  • feddu ar rywfaint o brofiad mewn cadw cyfrifon
  • feddu ar ddealltwriaeth ganolig o gyfrifiaduron

Cyflwyniad

Mae'n hyfforddiant ffurfiol sy'n defnyddio deunyddiau ymarferol i egluro ac yn dilyn llawlyfrau.

Cadw Cyfrifon Lefel 2

  • Prosesu dogfennaeth busnes
  • TAW
  • Disgowntiau
  • Arian Mân a Llyfr Arian Mân
  • Taliadau a derbyniadau
  • Cysoni Dyddlyfrau Arian a Chysoni â'r Banc
  • Rheoli credyd a Drwgddyledion
  • Llyfrifo dwbl a'r Llyfrau Cyfrifon
  • Mantolen Brawf
  • Deall adroddiadau ariannol

Asesiad

Cewch eich asesu drwy gwblhau portffolio o dystiolaeth ac mewn asesiadau dosbarth.

Dilyniant

  • Tystysgrif Lefel 3 mewn Cyfrifeg 'Agored'
  • Rhaglen 'Sage Payroll' / Prosesu Cyflogau â llaw
  • Cyfrifon Cyfrifiadurol Lefel 2/Lefel 3

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Rhan amser

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • Business and Management

Dwyieithog:

n/a

Business and Management

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Business and Management

Myfyrwyr yn siarad mewn ystafell ddosbarth