Gyrfaoedd Proffesiynol ym maes Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig - Lefel 3

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llangefni, Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Llawn amser
  • Hyd:

    2 flynedd

Gwnewch gais
×

Gyrfaoedd Proffesiynol ym maes Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig - Lefel 3

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Llangefni
Llandrillo-yn-Rhos

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Os ydych am fod yn weithiwr proffesiynol ym maes adeiladu a'r amgylchedd adeiledig, dyma'r cwrs i chi. Bwriad y rhaglen Sgiliau Uwch ym maes Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig yw rhoi i chi wybodaeth eang sy'n berthnasol i bob rhan o'r diwydiant adeiladu a pheirianneg sifil. Ar ôl i chi gwblhau'r rhaglen hon gallwch fynd ymlaen i amrywiaeth o swyddi proffesiynol a/neu i gyrsiau Addysg Uwch, er enghraifft:

  • Pensaernïaeth
  • Peirianneg Strwythurol
  • Peirianneg Sifil
  • Syrfeo Meintiau
  • Peirianneg y Gwasanaethau Adeiladu
  • Rheoli Prosiectau
  • Modelu Gwybodaeth am Adeiladau

Er bod modd i chi gael Diploma Estynedig Lefel 3 BTEC ar ôl 2 flynedd, sy'n gyfwerth â 3 Lefel A, gallwch hefyd ddewis gadael y rhaglen ar ôl blwyddyn gyda chymhwyster BTEC sy'n cyfateb i 3 Lefel AS. Ar ôl cwblhau'r ail flwyddyn yn llwyddiannus gallwch fynd ymlaen i swyddi neu gyrsiau addysg uwch amrywiol, neu'r ddau. Gallai cyrsiau addysg uwch gynnwys Prentisiaeth Uwch, Tystysgrif Addysg Uwch, Gradd Sylfaen neu Radd Anrhydedd. Gellir astudio'r rhain oll un ai yng Ngrŵp Llandrillo Menai neu mewn prifysgolion eraill.

Mae'r rhaglen yn gyfuniad o waith theori a gwaith ymarferol, a bydd yn rhoi cyfle i chi roi'r wybodaeth drylwyr y byddwch yn ei meithrin ar waith mewn ffordd broffesiynol. Byddwch yn dysgu drwy gwblhau prosiectau ac aseiniadau a seiliwyd ar sefyllfaoedd gwaith realistig. Er enghraifft, byddwch yn cymryd rhan mewn gweithgareddau fel mapio adeilad yn thermol gan ddefnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf (Camera Delweddu Thermol). Byddwch hefyd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau Dylunio Adeiladau gan ddefnyddio platfformau modelu 3D amrywiol i Ddylunio drwy Gymorth Cyfrifiadur.

Gofynion mynediad

I gael lle ar y cwrs hwn, byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:

  • 4 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf, Mathemateg a phynciau Gwyddoniaeth neu Dechnoleg.
  • Cymhwyster Lefel 2 perthnasol ym maes adeiladu.
  • Profiad perthnasol mewn diwydiant (bydd hyn yn ddibynnol ar gyfweliad)

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg neu Saesneg Iaith, bydd rhaid i chi ddod i'r coleg am ddiwrnod ychwanegol bob wythnos i astudio ar gyfer y cymwysterau hyn. Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhai cyfle i chi drafod y cwrs.

Cyflwyniad

Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Darlithoedd (ar y campws ac ar-lein)
  • Seminarau
  • Dosbarthiadau meistr
  • Tiwtorialau
  • Ymweliadau â safleoedd (gall rhai o'r rhain fod yn ymweliadau rhithwir)
  • Teithiau maes (os bydd y mesurau i ddiogelu rhag COVID yn caniatáu hynny)
  • Rhoi sgiliau a gwybodaeth ar waith yn ymarferol

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU a/neu
  • Bagloriaeth Cymru
Bagloriaeth Cymru

Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster gwerthfawr a astudir yn aml ochr yn ochr â chwrs llawn amser.

Caiff y cymhwyster, sy'n werth hyd at 120 pwynt UCAS, ei raddio A*–E a bydd yn rhoi i chi sgiliau personol a sgiliau busnes trosglwyddadwy. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr.

Yn rhan o'r cymhwyster, byddwch yn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, Mentergarwch a Chyflogadwyedd, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac yn mynd ar brofiad gwaith.

Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

Ar ôl darparu hyfforddiant trylwyr, fe asesir y rhaglen drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Aseiniadau
  • Tasgau ymarferol (dylai'r myfyrwyr fod yn ymwybodol bod y rhaglen yn cynnwys gweithgaredd tirfesur gorfodol sy'n para wythnos (pum diwrnod) gyfan.
  • Cyflwyniadau
  • Arholiadau Allanol
  • Arholiad Mewnol

Dilyniant

Bydd cwblhau'r cwrs hwn yn rhoi i chi nifer o ddewisiadau o ran addysg a gwaith. Gallech fynd ymlaen i ddilyn cwrs Addysg Uwch mewn amrediad eang o feysydd, yn cynnwys:

  • Tystysgrif Addysg Uwch Lefel 4 ym maes Adeiladu
  • Tystysgrif Addysg Uwch Lefel 4 mewn Peirianneg Sifil
  • Prentisiaeth Uwch ym maes Adeiladu
  • Prentisiaeth Uwch mewn Peirianneg Sifil
  • Gradd Sylfaen (FdSc) Adeiladu
  • Gradd Sylfaen (FdEng) Peirianneg Sifil
  • BEng (Anrh) Peirianneg Sifil BSc (Anrhydedd) mewn Rheoli ym maes Adeiladu

Gwybodaeth campws Llangefni

Ysgoloriaeth Watkin Jones ar gael.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 3

Dwyieithog:

n/a