Diploma Mynediad i Addysg Uwch (Gwyddorau Cymdeithasol)
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Bangor
- Dull astudio:Llawn amser
- Hyd:
1 flwyddyn (16 awr yr wythnos)
Diploma Mynediad i Addysg Uwch (Gwyddorau Cymdeithasol)Llawn Amser (Addysg Bellach)
Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.
Disgrifiad o'r Cwrs
Hoffech chi fynd ymlaen i Addysg Uwch? Ydych chi am baratoi ar gyfer astudio pwnc sy'n ymwneud â'r gwyddorau cymdeithasol? Ar y cwrs hwn, cewch y wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sy'n angenrheidiol i fynd ymlaen i ddilyn cwrs addysg uwch, gan gynnwys cyrsiau gradd mewn Seicoleg, Cymdeithaseg, Gwleidyddiaeth, Y Gyfraith a phynciau eraill.
Nod y Diplomâu Mynediad i AU Cymru Gyfan newydd yw rhoi i chi'r sgiliau sy'n angenrheidiol i fynd ymlaen i ddilyn rhaglen addysg uwch yn llwyddiannus. Fe'u bwriadwyd ar gyfer dysgwyr sydd wedi cael profiad sylweddol o fywyd ers iddynt gwblhau eu haddysg orfodol.
Gofynion mynediad
I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:
- TGAU Gradd C neu cyfateb mewn Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf, TGAU Gradd D neu cyfateb mewn Mathemateg neu Rhifedd, yn unol â gofynion y llwybr dilyniant i brifysgol. Dylech fod wedi cael profiad mewn sgiliau bywyd perthnasol am o leiaf dair blynedd ar ôl gadael addysg orfodol.
Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.
Noder:
- Mae tipyn o gystadlu am le ar gyrsiau gwaith cymdeithasol a bydd gofyn i chi ddangos eich bod yn deall yn iawn beth mae'r swydd yn ei olygu. Yn ogystal â hyn, bydd gofyn i chi gael profiad diweddar a pherthnasol (profiad fel gweithiwr cyflog neu wirfoddol, neu brofiad personol) ac mewn rhai achosion, mae gofyn cael o leiaf chwe mis o brofiad.
- Bydd gofyn i chi gael gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn y cewch weithio ym maes gwaith cymdeithasol. Os ydych yn pryderu y gall rhywbeth yn eich gorffennol effeithio ar eich cymhwysedd, cysylltwch â'r darparwr Addysg Uwch perthnasol i gael arweiniad.
- Yn wyneb y gystadleuaeth gynyddol am le ar gyrsiau gwaith cymdeithasol, mae'n bosibl y cynghorir chi i gofrestru ar y cwrs Sgiliau ar gyfer Astudio Pellach cyn dechrau ar y cwrs Mynediad.
Cyflwyniad
Cynlluniwyd Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch i'ch helpu i ddychwelyd i astudio ar ôl cyfnod o amser. Felly, bydd y sesiynau'n rhai cyfranogol a gynhelir mewn awyrgylch cyfeillgar ac ysgogol. Byddwch yn gweithio'n agos gyda'r tiwtoriaid, gan ddysgu drwy gyfrwng gwersi ffurfiol yn ogystal â thrafodaethau, arddangosiadau a gwaith prosiect.
Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:
- Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
- Ailsefyll TGAU a/neu
- Bagloriaeth Cymru
Bagloriaeth Cymru
Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster gwerthfawr a astudir yn aml ochr yn ochr â chwrs llawn amser.
Caiff y cymhwyster, sy'n werth hyd at 120 pwynt UCAS, ei raddio A*–E a bydd yn rhoi i chi sgiliau personol a sgiliau busnes trosglwyddadwy. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr.
Yn rhan o'r cymhwyster, byddwch yn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, Mentergarwch a Chyflogadwyedd, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac yn mynd ar brofiad gwaith.
Sgiliau Hanfodol
Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.
Ailsefyll TGAU
Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.
Mathemateg a Chymraeg/Saesneg
Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.
Asesiad
Cewch eich asesu fel a ganlyn:
- Gosodir tasgau gwahanol ar gyfer pob uned ac fe'ch asesir drwy gyfrwng y rhain yn ystod y cwrs
- Bydd eich tiwtor yn eich helpu ac yn eich paratoi'n ddigonol
- Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu, gan gynnwys traethodau, adroddiadau, tasgau ymarferol, gwerthuso rolau, a chyflwyniadau.
- Bydd holl fodiwlau'r pynciau academaidd yn cynnwys o leiaf un ymarfer dibaratoad y bydd gofyn ei gwblhau mewn amser penodol.
Bydd y rhaglen ddysgu'n cynnwys pynciau fel Technoleg Gwybodaeth a modiwl 'Edrych Ymlaen at Addysg Uwch' Lefel 4.
Dilyniant
Os gwnewch gwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, bydd gennych y wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sy'n angenrheidiol i fynd ymlaen i ddilyn cwrs Addysg Uwch yma yng Ngholeg Llandrillo neu mewn sefydliad arall.
Cewch ddewis o amrywiaeth o gyrsiau, gan gynnwys cyrsiau gradd mewn Seicoleg, Cymdeithaseg, Gwleidyddiaeth, Y Gyfraith, Troseddeg a phynciau eraill.
Dewis arall fyddai gweithio i'r gwasanaeth prawf, gweithio i adran gwasanaethau cymdeithasol, bod yn athro neu weithio mewn maes arall.
Gwybodaeth campws Bangor
Mynediad i AU (Gwyddorau Cymdeithasol) Gwybodaeth am y cwrs a rhagofynion Mae'r cwrs Mynediad i AU (Gwyddorau Cymdeithasol) yn cael ei gynnal am 3 diwrnod yr wythnos drwy gydol y flwyddyn academaidd. Mae'r dosbarthiadau'n cael eu cynnal rhwng 9.15am a 4pm a disgwylir i ddysgwyr ddod i'r holl sesiynau. Caiff presenoldeb a phrydlondeb eu monitro'n ofalus yn ystod wythnosau cyntaf y cwrs.
Mae'r cwrs wedi'i anelu at oedolion sy'n dychwelyd i ddysgu ac sy'n awyddus i fynd ymlaen i Brifysgol. Fel arfer, ni chaiff dysgwyr sydd newydd adael yr ysgol neu gwrs Lefel 2 neu 3 arall eu derbyn.
I gael lle ar y cwrs, mae'n ofynnol i ddysgwyr ddangos gallu lefel 2 mewn Saesneg a Mathemateg (TGAU Gradd C), ond cyn gwneud cais i brifysgol, mae'n bosib y bydd yr NMC (Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth) yn gofyn i ddysgwyr fod â TGAU mewn Saesneg a Mathemateg. Os nad oes ganddynt broffil Lefel 2, mae'n bosib y caiff dysgwyr eu cynghori i gwblhau cymhwyster Sgiliau ar gyfer Astudio Pellach cyn dechrau ar gwrs Mynediad. Oherwydd bod cryn gystadleuaeth i gael lle ar gyrsiau nyrsio, bydwreigiaeth ac ati a bod angen i ddysgwyr wneud eu ceisiadau'n fuan ar ôl dechrau ar y cwrs Mynediad, cewch eich cynghori i gael profiad sylweddol mewn lleoliad gofal (fel gweithiwr cyflogedig neu wirfoddolwr) cyn dechrau ar y cwrs Mynediad i AU.
Pynciau sy'n cael eu hastudio
Mae Sgiliau Astudio, Rhifedd a Llythrennedd yn rhan greiddiol o'r Diploma Mynediad i AU a rhaid llwyddo yn y pynciau hyn, yn ogystal â chael gwybodaeth sylfaenol o TG ar gyfer Addysg Uwch.
Yn ogystal, rhaid i ddysgwyr lwyddo i gael 45 credyd Lefel 3 mewn tri phwnc academaidd sy'n cael eu graddio ar lefel Llwyddo, Teilyngdod a Rhagoriaeth.
Er enghraifft, gallai cynnig arferol gan Brifysgol ofyn am 30 credyd ar lefel Teilyngdod a 15 ar lefel Rhagoriaeth.
Y pynciau academaidd sy'n cael eu hastudio ar y Llwybr Mynediad i AU (Gwyddorau Cymdeithasol) yw:
- Cymdeithaseg
- Gwaith Cymdeithasol
- Seicoleg
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)
Lefel:
3
Dwyieithog:
n/a