Rhaglen Datblygu Staff Cenedlaethol Sgiliaith

Mae cyfleoedd datblygu proffesiynol Sgiliaith yn addas i bawb sy’n gweithio yn y sector, waeth beth fo’u sgiliau Cymraeg neu brofiad blaenorol.

Mae Rhaglen Hyfforddiant Datblygu Staff Sgiliaith yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd hyfforddiant i gefnogi dilyniant sgiliau dwyieithog ymarferwyr, a chynigia Cynllun Fentora Staff Sgiliaith gefnogaeth i ymarferwyr mewn sefyllfaoedd dysgu go iawn i fewnosod y Gymraeg/dwyieithrwydd yn y dosbarth neu yn y gweithle.

Cyflwynir y cyfleoedd datblygu proffesiynol gan Sgiliaith ar ran y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn dilyn ehangu eu rôl i gynnwys y sectorau Addysg Bellach a Phrentisiaethau a lansiad strategaeth genedlaethol newydd yn 2019. Ariennir y ddarpariaeth ar gyfer ymarferwyr yn y sector Addysg Bellach a Phrentisiaethau.

Mae rhagor o fanylion am gyfleoedd hyfforddiant a mentora Sgiliaith i'w gweld yma:

Lawr lwythwch ein prosbectws yma neu cliciwch yma i ddatgan diddordeb yn/ein cwrs/cyrsiau hyfforddiant.

Adnoddau cwrs y Rhaglen Datblygu Staff Cenedlaethol.

Logo Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Ariennir gan Logo Llywodraeth Cymru