Dysgu o bell

Mae'r ddarpariaeth fideo-gynadledda cyfrwng Cymraeg yn ategu prif genhadaeth Sgiliaith, gan gyfuno'r egwyddor o ehangu'r ddarpariaeth gwricwlaidd a gynigir yn Gymraeg neu'n ddwyieithog, yn y Gymraeg a’r Saesneg, gyda dulliau addysgu arloesol.

Beth am fanteisio ar gyfle gwych i ehangu cwricwlwm Lefel A eich ysgol neu goleg drwy gynnig darpariaeth arloesol sydd wedi derbyn gwobr gan Gymdeithas y Colegau? Hoffech chi ddefnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf i gynnig pynciau fel Y Gyfraith, Gwleidyddiaeth, Seicoleg neu Gymdeithaseg i fyfyrwyr eich chweched dosbarth? Defnyddiwn gyswllt fideo sydd ag opsiynau hyblyg fel Chrome Box neu Skype i sicrhau bod y dechnoleg yn addas ar eich cyfer.

Mae Coleg Meirion-Dwyfor a Sgiliaith yn falch iawn eu bod wedi ennill Gwobr Beacon, a noddwyd gan Jisc ac a ddyfarnwyd gan Gymdeithas y Colegau, am y Defnydd Gorau o Dechnoleg ym maes Addysg Bellach. Dyfarnwyd y wobr iddynt am eu Platfform Dysgu ac Addysgu Lefel A cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn ystod 2013-14. Mae hon yn wobr a gydnabyddir ledled y Deyrnas Unedig ac fe'i dyfernir i sefydliad sydd wedi defnyddio technoleg i gael effaith sylweddol ar y dysgu, gan gyflwyno'r cwricwlwm yn fwy effeithiol drwy gyfrwng dulliau addysgu arloesol.

Y Cynnig

Cynigir y ddarpariaeth am £738.32 y pen, ar yr amod bod rhwng 10 a 12 myfyriwr yn y grŵp, gydag opsiwn aml-gyswllt (hyd at dair ysgol neu goleg a hyd at bum ymweliad y flwyddyn).

Rydym hefyd yn cynnig mynediad i Moodle a Google Classroom, bod yn bresennol mewn cyfarfodydd rhieni, cyfrannu at ysgrifennu adroddiadau ysgol, a chynorthwyo gyda cheisiadau UCAS.
  • Lefel A/AS Seicoleg
  • Lefel A/AS Y Gyfraith
  • Lefel A/AS Cymdeithaseg
  • Lefel A/AS Gwleidyddiaeth